Skip to main content

Unplygrwydd mewn arweinyddiaeth: Titus 1.1–16 (1 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Titus 1.1–16

Mae Titus yn gweinidogaethu yng Nghreta, ac nid yw Paul yn ganmoliaethus iawn am Cretiaid (adnodau 12-13) – nid yw ‘bobl gelwyddog – bwystfilod drwg ydyn nhw, pobl farus a diog’ yn iaith ddiplomataidd. Yn ôl ei arfer yn ei lythyrau, dim ond un ochr sydd gennym o’r sgwrs. Nid ydym yn gwybod beth oedd y 'nonsens' roedd yr Iddewon yn siarad amdano (adnod 10), na’r ‘chwedlau Iddewig’ (adnod 14), er bod y cwestiwn a ddylid enwaedu Cristnogion gwrywaidd o’r Cenhedloedd yn fater byw i’r Eglwys gynnar ac efallai mai dyna oedd hi.

Daw’r cysylltiad rhwng athrawiaeth gywir ac ymddygiad cywir yn glir yn y bennod hon. Rhaid i arweinwyr eglwysig ‘credu'n gryf yn y neges’ (adnod 9). ‘Mae popeth yn bur i'r rhai sydd â chalon bur’ (adnod 15). Mae cymeriad henuriaid – ac, mewn oes lle'r oedd gan dadau gyfrifoldeb llwyr am ymddygiad eu plant, eu teuluoedd – yn deillio o gredoau ffyddlon, ond mae’n rhaid i gredu ffyddlon gael ei gyfateb gan ymddygiad cywir.

Sut cafodd yr arweinwyr cynnar hynny eu recriwtio? Yr ateb amlwg ar y pryd fyddai dewis pobl o’r statws cymdeithasol uchaf. Ond nid dyna mae Paul yn ei ddweud. Waeth beth allai rhoddion neu safle cymdeithasol rhywun fod, os nad ydynt yn byw yn iawn ni ddylent fod yn arweinydd Cristnogol.

Ar adeg pan mae eglwysi wedi cael eu beirniadu’n ffyrnig am anwybyddu neu fychanu materion yn ymwneud â cham-drin, mae ei gyngor yn boenus o berthnasol. Unplygrwydd yw popeth.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ymarfer yr hyn rydw i’n ei bregethu. Pura fy nghalon, fel bod yr hyn sydd y tu mewn i mi yn dy ogoneddu wrth imi siarad a byw'r hyn rwy’n ei gredu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible