Skip to main content

Daioni bwriadol: Titus 2.1–15 (2 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Titus 2.1–15

Mae’n debyg ei bod hi’n wir dweud bod y mwyafrif ohonom yn tybio ein bod ni’n bobl dda. Rydym yn annhebygol, os ydym yn rhan o gymuned Gristnogol, i fod yn odinebus neu’n feddw neu â thueddiad at ddwyn neu drais. Yng nghyfnod Paul roedd angen dweud y pethau hyn yn gliriach, oherwydd nid oedd cysylltiad angenrheidiol rhwng datguddiad crefyddol newydd a safon uchel o fyw’n foesol. I Gristnogion, serch hynny, mae’n wahanol. ‘Mae Duw wedi dangos ei haelioni rhyfeddol drwy gynnig achub unrhyw un’ (adnod 11); ac mae gan y gras hwn ganlyniadau i’r ffordd rydym yn byw. Mae’n ‘ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a'n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw'n gyfrifol, gwneud beth sy'n iawn a rhoi'r lle canolog yn ein bywydau i Dduw’ (adnod 12).

Felly mae gras Duw i ni yn golygu nad ydym yn anelu at fath o ddaioni goddefol yn unig, sy’n canolbwyntio ar osgoi pechod ofnadwy. Mae’n llawer mwy bwriadol na hynny. Os yw ein diffiniad o ddaioni yn rhywbeth fel ‘bod yn neis’, mae’n debyg nad ydym yn gwerthfawrogi goblygiadau gras mewn gwirionedd. Nid yw daioni yn ddiflas nac yn ddiniwed. Gall fod yn bigog ac yn annifyr – yn sicr gall fod yn feichus ac weithiau’n arwrol. Mae’r rhestr o orchmynion yn Titus 2 yn herio llawer o’n tueddiadau naturiol at hunanoldeb, dominyddiaeth, a balchder. Os na fyddwn yn teimlo’r pethau hyn yn gryf, efallai ein bod yn ffodus – efallai y byddwn yn ennill cymeradwyaeth pobl am fod yn ‘neis’ yn naturiol. Ond mae gras Duw yn gofyn am ddaioni gweithredol, sy’n aml yn rhedeg yn erbyn graen y natur ddynol. 

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ddeall beth mae dy ras yn ei olygu i’m bywyd. Dangosa i mi beth sydd yn fy nghalon, a helpa fi i fod yn raslon yn fwriadol tuag at eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible