Skip to main content

Munud o wallgofrwydd: 2 Brenhinoedd 14.1–22 (31 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 14.1–22

Mae Brenin Jwda, Amaseia, yn cymryd yr awenau oddi wrth ei dad, y Brenin Joas a lofruddiwyd (12.20-21). Fel ei dad, mae’n cael ei ganmol am wneud ‘yr hyn a oedd yn plesio’r ARGLWYDD’, er fel ef ni wnaeth lanhau’r deyrnas o addoliad Baal. Mae’n dechrau’n dda, gan ddienyddio llofruddwyr ei dad ond gan arbed eu plant (yn wahanol iawn i Jehu neu Athalia). Mae buddugoliaeth dros yr Edomiaid, serch hynny (adnod 7), yn mynd i’w ben: mae’n herio pŵer llawer mwy Israel, ac er gwaethaf ymdrechion y Brenin Jehoas i’w ddarbwyllo, yn ymosod â chanlyniadau trychinebus (adnodau 12-14). Ar ôl 15 mlynedd, mae ef hefyd yn cael ei lofruddio.

Fel stori, byddai hyn yn gwneud nofel neu ffilm wych. Ond o dan hanesion Jwda ac Israel – wedi ei wneud yn fwy cymhleth gan y tebygrwydd rhwng enwau eu brenhinoedd! – mae’r ysgrifennwr yn pryderu am berthynas eu llywodraethwyr â Duw. 

Mae’n amlwg iawn, serch hynny, nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng pa mor llwyddiannus ydynt fel brenhinoedd a’u ffydd bersonol. Gallent wneud yr hyn sy’n plesio’r Arglwydd, ond dal i ymddwyn yn ffôl – fel Amaseia – neu fod yn anffodus. Nid yw’r Beibl yn awgrymu os ydym yn credu yn Nuw ac yn gwneud y peth iawn, byddwn bob amser yn llwyddiannus ac yn gyffyrddus. Mae bywyd yn fwy cymhleth na hynny, a’r amseroedd pan mae angen ffydd arnom yw pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae’r straeon hyn am frenhinoedd a’u hanturiaethau yn gyffrous, ond yr edefyn sy’n rhedeg trwy bob un ohonynt yw’r cwestiwn: a oeddent yn iawn gyda Duw?

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am straeon dy bobl ers talwm. Helpa fi i ddysgu o’r hyn wnaethon nhw – y da a’r drwg. Yn fwy na dim, cadwa fi’n ffyddlon i ti wnaeth beth sy’n digwydd yn fy mywyd. Helpa fi i wneud yr hyn sy’n dy blesio di.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible