Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae gan Philip a Tomos gwestiynau pwysig (Ioan 14.5 ac 8): i ble mae Iesu’n mynd? Sut allant wybod y ffordd? Sut un yw Duw? Y cwestiynau, nid yr hud o gael yr atebion, sy'n dod â'r disgyblion yn nes at Grist.
Mae Iesu’n dal i ddychwelyd i thema agosatrwydd: ‘Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi’ (adnod 3); ‘Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi?’ (adnod 10); ‘yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi.’ (adnod 17). Mae Iesu yn rhoi’r gwahoddiad syfrdanol inni fynd i mewn i deyrnas y Duw buddugoliaethus ac ymuno â’r undeb cyfriniol: ‘Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi’ (adnod 20).
Mae iaith Iesu yn fy atgoffa o'r profiad dynol o ymgolli'n llwyr mewn rhywbeth neu rywun - yr eiliadau gwerthfawr hynny pan fydd y ffiniau rhyngom ni a'r llall yn dechrau cymylu, pan fydd ein ffocws ar y dasg rydym yn ymgolli ynddo, neu'r person rydym yn ei garu neu edmygu, mor gryf nes ei fod yn gwneud inni anghofio amdanom ein hunain.
Nid yw'n syndod bod Iesu'n cysylltu'r undeb cyfriniol â chariad: ‘Bydd y rhai sy'n fy ngharu i yn gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni'n dod atyn nhw i fyw gyda nhw' (adnod 23).
Arglwydd, helpa fi i dy garu di, trwy dy geisio di a thrwy wneud dy ewyllys.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.