Skip to main content

Salm 51 Lle diogel i gyffesu (6 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 51

Mae'r salm hon yn adnabyddus, yn bennaf am ei chysylltiad â stori Dafydd a Bathseba (gweler 2 Samuel 11–12) ac yn fwy diweddar am y parodïau ar-lein direidus ynghylch canllawiau golchi dwylo i osgoi'r coronafeirws.

Er mai cri bersonol am faddeuant oedd hon, mae galarnad Dafydd yn haeddu ei lle yn llyfr addoli'r genedl, nid yn unig oherwydd mai ef oedd ei harweinydd, efallai, ond hefyd oherwydd bod ei chynnwys mor hollgyffredinol – beth bynnag yw'r sefyllfa, gall llawer ohonon ni uniaethu â hi.

Mae craidd hyn yn adnod 6: 'Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn; rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth.' Mae Dafydd yn siarad â Duw sy'n dymuno'r gwirionedd, pa mor aflêr bynnag yw hwnnw.

Mae cri agoriadol Dafydd am faddeuant yn dilyn patrwm salm galarnadu, ac yna’n troi'n i gyfaddef ei euogrwydd. Ac er ei fod yn galaru, mae'n dangos ymddiriedaeth lwyr fod Duw yn barod i faddau ac yn gallu gwneud hynny.

Mae agosatrwydd mawr yn y ffaith nad yw'n cilio rhag Duw neu'n cuddio mewn cywilydd. Ond mae dod â'r rhannau hynny ohonon ni ein hunain neu o'n gweithredoedd sydd leiaf hoff gennym yn golygu bod modd eu maddau a'u hadfer.

Fel y llinellau clo, mae'r salm yn edrych ymlaen at berthynas wedi'i hadfer â Duw ac at fendithion y pethau sydd i ddod. Mae presenoldeb Duw yn noddfa ddiogel i gyffesu ynddi, ac mae'n arwain at bethau da.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi i fod yn wirioneddol onest yn fy 'modolaeth fewnol' gan wybod y caf wybod beth yw dy arweiniad a'th ddull o'm hadfer.


Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible