Skip to main content

Salm 50 Y sawl sy'n derbyn offrwm diolch (5 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 50 

Salm doethineb arall sy’n cael ein sylw heddiw, a'r tro hwn y wers yw sut rydych chi'n ymwneud â Duw. Yn fyr, y doethineb yw: gyda diolch!

Wrth osod y sylfeini yn adnodau 1–2, mae'r salmydd yn darlunio Duw fel barnwr nerthol a gorchestol, sy'n chwilio am y rhai y mae'n eu disgrifio’n bobl iddo. Dydy Duw ddim yn cwyno am eu haberthau (adnod 8) – maen nhw'n gwneud y pethau cywir – ac eto mae'n mynegi dyhead dyfnach: mae eisiau derbyn eu diolch ac mae eisiau iddyn nhw ddod ato am help.

Mae'r Hen Destament yn gallu ymddangos fel petai'n cofnodi cyfnod o hanes lle mai ar reolau’n unig mae perthynas Duw â phobl yn dibynnu. Ond y gwirionedd yw, mae dyhead Duw am berthnasoedd gwirioneddol, llawn ymddiriedaeth â'i bobl yno, o'r dechrau'n deg. Dim ond un o’r pethau sy’n ein hatgoffa o'r gwirionedd hwnnw yw'r salm hon.

Does dim angen ichi dreulio llawer o amser ar-lein i ddod o hyd i gyngor ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) am aros yn llonydd er mwyn bod yn ddiolchgar. Gwych! Ond peth da yw cofio lle dylen ni gyfeirio ein diolchgarwch: at Dduw a roddodd bopeth inni.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch iti am ymhyfrydu yn fy niolchgarwch lawn cymaint ag mewn unrhyw offrwm arall a wnaf iti. Diolch am bopeth a roddaist imi ac am mai oddi wrthyt ti mae pob anrheg dda a pherffaith yn dod.


Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible