Skip to main content

Salm 52 Mae Duw yn dal i fod yn dda (7 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

 

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 52

Mae'r cyfarwyddiadau perfformio'n cyflwyno cyd-destun y salm hon fel hyn 'Pan aeth Doeg o Edom at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd wedi dod i dŷ Achimelech.”'. Cewch ddarllen y stori drosoch eich hun yn 1 Samuel 21–22, ond Doeg sy'n gyfrifol yn y bôn am ddweud wrth y Brenin Saul fod Dafydd, milwr hynod deyrngar, ac Achimelech, offeiriad, yn ei erbyn. Canlyniad hyn yw nid yn unig peryglu bywyd Dafydd, ond bod Doeg yn llofruddio cannoedd o offeiriaid. Mae deall cyd-destun y salm yn ein helpu i ddeall natur ddialgar adnodau 5–7, sy'n dod ar ôl i Dafydd herio balchder Doeg am ei weithredoedd.

Yn yr eiliad hon o anobaith dwfn, brad a chamddealltwriaeth, mae'n rhyddhau ei boen yn y ffordd fwyaf cyfarwydd iddo: â galarnad. Mae dilyn patrwm nodweddiadol galarnad yn golygu bod y gân yn gorffen drwy ddatgan daioni Duw.

Dafydd sydd â'r rheswm lleiaf dros fod yn obeithiol yn y sefyllfa hon: mae wedi cael ei fradychu i'r brenin, ac mae'n ei feio ei hun am sefyllfa wael. Ond yn y pen draw mae'r salm yn datgan ymddiriedaeth y bydd daioni yn gorchfygu drygioni maes o law.

Hyd yn oed ynghanol galar, brad a dicter, mae'r salmydd yn sylweddoli nad yw ei brofiadau a'i emosiynau'n newid cymeriad Duw. Beth bynnag yw ein profiadau, mae Duw yn dal i haeddu ein canmoliaeth.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch bod dy gymeriad yn dal yn dda, hyd yn oed pan deimlaf fod eraill wedi fy mrifo neu fy mradychu. Helpa fi pan fyddaf yn teimlo fwyaf chwerw i ddod â'm poen atat ti ac i ymddiried yn dy ddaioni bob amser.


Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible