Skip to main content

Pan mae ofn yn llygru pobl Dduw: Genesis 20.1–17 (Ionawr 19 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 20.1–17

Un o'r pethau syfrdanol am rai o straeon yr Hen Destament yw sut mae merched yn cael eu trin fel eiddo. Roedd hyn yn normal yn yr hen fyd, ond ymhlyg yn y ffordd y mae'r straeon hyn yn cael eu hadrodd yn y Beibl yw condemniad Duw o'r ymddygiad hwn. Felly yma, mae Abraham yn barod i buteinio ei wraig er ei ddiogelwch ei hun, gan ddweud ei bod yn chwaer (lawn) iddo fel y byddai'n dderbyniol i Abimelech fynd â hi i'w chartref (er bod hyn hyd yn oed yn dangos cyn lleied o reolaeth oedd gan ferched dros eu tynged). Nid yw Abraham yn dangos unrhyw barch at ei hanrhydedd a dim sylw tuag at ei diogelwch. Mae'n ei gwneud hi'n rhan ganolog o'r twyll trwy ddweud wrthi ei fod yn brawf o'i theyrngarwch iddo.

Nid yw Abraham yn dod allan o'r stori hon yn dda. Mae gan y gwladweinydd doeth, rhyfelwr pwerus a hynafiad holl Israel fethiant moesol ofnadwy. Mae Duw ei hun yn ymyrryd i achub y sefyllfa.

Ar un lefel, mae hon yn enghraifft o ymddygiad cywilyddus o fath yr ydym yn sensitif iawn iddo heddiw. Yn y Testament Newydd, mae Paul yn dweud wrth wŷr am ‘garu eich gwragedd yn union fel mae'r Meseia wedi caru'r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti, i'w chysegru hi a'i gwneud yn lân' (Effesiaid 5.25); nid yw Abraham yn dilyn y cyngor hwn.

Ar lefel arall, mae'n dweud wrthym fod angen dewrder moesol a chorfforol i wneud y peth iawn. Os ydym yn gadael i'n hunain gael ein llygru gan ofn, gall y canlyniadau fod yn ofnadwy.

Gweddi

Gweddi

Duw, mae'n ddrwg gen i am yr amseroedd pan rydw i wedi bod yn rhy ofnus i wneud yn iawn. Maddau imi am y geiriau rwyf ddim wedi eu dweud a'r pethau rwyf ddim wedi eu gwneud, a'r amseroedd rydw i wedi cymryd y ffordd hawdd yn lle'r ffordd iawn.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible