No themes applied yet
Abraham yn twyllo Abimelech
1Symudodd Abraham iʼr de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn crwydro am gyfnod yn ardal Gerar 2dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani iʼw chymryd iddoʼi hun.
3Ond dyma Duw yn siarad ag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Tiʼn mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hiʼn wraig briod.” 4Doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi ar y pryd, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet tiʼn dinistrio pobl syʼn ddieuog? 5Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithauʼn dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Rôn iʼn gweithreduʼn gwbl ddiniwed.”
6A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw iʼn gwybod dy fod tiʼn ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi. 7Felly, rhoʼr wraig yn ôl iʼw gŵr. Mae eʼn broffwyd. Bydd eʼn gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt tiʼn fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”
8Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galwʼi swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. 9Yna galwodd am Abraham a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth oʼi le i ti? Pam wyt ti wedi achosi i mi aʼm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.” 10A gofynnodd i Abraham, “Beth oeddet tiʼn feddwl roeddet tiʼn ei wneud?” 11A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Rôn iʼn meddwl y byddech chiʼn siŵr oʼm lladd i er mwyn cael fy ngwraig. 12Ond yn digwydd bod, maeʼn berffaith wir ei bod hiʼn chwaer i mi. Mae gynnon niʼr un tad, ond dim yr un fam. Felly dyma fiʼn ei phriodi hi. 13Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dwedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod niʼn frawd a chwaer.’”
14Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd. 15Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.” 16A dwedodd wrth Sara, “Dw iʼn rhoi mil o ddarnau arian i dy ‘frawd’ di. Dw iʼn ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd oʼi le.”
17Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, aʼi wraig aʼr caethferched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhwʼn gallu cael plant eto. 18(Roedd yr ARGLWYDD wedi stopioʼr merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.)
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015