No themes applied yet
Geni Isaac
1Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel roedd wediʼi addo i Sara. 2Dyma hiʼn beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd eʼn hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wediʼi ddweud. 3Galwodd Abraham y mab gafodd Sara yn Isaac. 4Pan oedd yn fabi wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. 5(Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.) 6A dyma Saraʼn dweud, “Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen, a bydd pawb syʼn clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.” 7Ac meddai wedyn, “Fyddai neb erioed wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn magu plant’! Ond dyma fi, wedi rhoi mab iddo, ac yntauʼn hen ddyn!”
Gyrru Hagar ac Ishmael i ffwrdd
8Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron, dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu.
9Gwelodd Sara y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac21:9 Felly Groeg a Lladin. Hebraeg heb ei mab hi, Isaac. 10A dyma hiʼn dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared âʼr gaethferch yna aʼi mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”
11Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo. 12Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimloʼn ddrwg am y bachgen aʼi fam. Gwna bopeth mae Saraʼn ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw. 13Ond bydda iʼn gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”
14Dyma Abraham yn codiʼn gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar iʼw gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gydaʼi mab. Aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
15Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hiʼn gadael y bachgen dan gysgod un oʼr llwyni. 16Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crioʼn uchel.
17Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar oʼr nefoedd, a gofyn iddi, “Beth syʼn bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen. 18Tyrd, cod y bachgen ar ei draed aʼi ddal yn dynn. Bydda iʼn gwneud cenedl fawr ohono.” 19Yna gwnaeth Duw iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hiʼn mynd i lenwiʼr botel groen hefo dŵr, a rhoi peth iʼr bachgen iʼw yfed.
20Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych. 21Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dymaʼi fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft.
Y Cytundeb rhwng Abraham ac Abimelech
22Tuaʼr adeg honno, dyma Abimelech, a dyn oʼr enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod ag Abraham. “Maeʼn gwbl amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech. 23“Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi diʼn troi yn fy erbyn i aʼm plant aʼm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd diʼn garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.”
24“Dw iʼn addo,” meddai Abraham. 25Ond yna dyma feʼn cwyno am y ffynnon roedd gweision Abimelech wediʼi dwyn oddi arno. 26“Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dymaʼr cyntaf i mi glywed am y peth.” 27Wedyn dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dymaʼr ddau yn gwneud cytundeb. 28Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr. 29A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydyʼr saith oen banw yma rwyt ti wediʼu gosod ar wahân?” 30“Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddioʼr ffynnon yma,” meddai Abraham. 31Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba,21:31 h.y. Ffynnon y saith, neu, Ffynnon y llw. am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno.
32Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech, a Pichol (pennaeth ei fyddin), yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid. 33Plannodd Abraham goeden tamarisg21:33 goeden tamarisg Coeden fytholwyrdd oedd yn rhoi lot o gysgod i bobl. yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw syʼn byw am byth.21:33 Hebraeg, El Olam. 34Buodd Abraham yn crwydro yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015