No themes applied yet
Ysgariad
(Mathew 5:31-32; Marc 10:1-12; Luc 16:18)
1Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, gadawodd Galilea a mynd i Jwdea aʼr ardal yr ochr draw iʼr Iorddonen. 2Cafodd ei ddilyn gan dyrfaoedd mawr, ac iachaodd eu cleifion.
3Dyma Phariseaid yn dod ato i geisioʼi faglu drwy ofyn, “Ydyʼr Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?” 4Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? – ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’19:4 Genesis 1:27; 5:2 5a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad aʼi fam ac yn cael ei uno âʼi wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’19:5 Genesis 2:24 6Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wediʼi uno.”
7Ond dyma nhwʼn gofyn iddo, “Ond pam felly wnaeth Moses ddweud fod rhaid i ddyn roi tystysgrif ysgariad iʼw wraig cyn ei hanfon i ffwrdd?”19:7 cyfeiriad at Deuteronomium 24:1 8“Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau. 9Wir i chi, mae unrhyw un syʼn ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”
10Meddaiʼr disgyblion wrtho, “Maeʼn well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna mae hi!” 11Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoiʼr gallu i rai. 12Mae rhai pobl wediʼu geniʼn eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu aʼu gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhaiʼn dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylaiʼr rhai sydd âʼr gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.”
Iesu aʼr plant bach
(Marc 10:13-16; Luc 18:15-17)
13Dyma bobl yn dod âʼu plant bach at Iesu er mwyn iddo osod ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.
14Ond meddai Iesu, “Gadewch iʼr plant bach ddod ata i. Peidiwch âʼu rhwystro, am mai rhai fel nhw syʼn derbyn teyrnasiad yr Un nefol.” 15Ar ôl iddo osod ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno.
Y dyn ifanc cyfoethog
(Marc 10:17-31; Luc 18:18-30)
16Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda syʼn rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”
17“Pam wyt tiʼn gofyn cwestiynau i mi am beth syʼn dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un syʼn dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd iʼr bywyd, ufuddha iʼr gorchmynion.”
18“Pa rai?” meddai.
Atebodd Iesu, “‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals,19:18 Exodus 20:13-16; Deuteronomium 5:17-20 19gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt tiʼn dy garu dy hun’.”19:19 a Exodus 20:12; Deuteronomium 5:16; b Lefiticus 19:18
20“Dw i wedi cadwʼr rheolau yma i gyd,” meddaiʼr dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.”
21Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rhoʼr arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
22Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
23Dyma Iesuʼn dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, maeʼn anodd i rywun cyfoethog adael iʼr Un nefol deyrnasu yn ei fywyd. 24Gadewch i mi ddweud eto – maeʼn haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
25Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw. 26Ond dyma Iesuʼn edrych arnyn nhw, a dweud, “Maeʼr peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duwʼn gallu gwneud popeth!”
27Yna dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn niʼn ei gael?”
28Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi – pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. 29Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol. 30Ond bydd llawer oʼr rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, aʼr rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015