Skip to main content

Pan mae Duw yn siarad: Luc 1.5–20 (15 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 1.5–20

Mae Luc yn cychwyn ei Efengyl trwy ddweud wrth Theoffilws ei fod wedi astudio’r hanesion a oedd yn mynd o gwmpas am Iesu yn ‘fanwl’. Mae Luc yn ysgrifennu fel hanesydd difrifol, ac efallai bod ei safbwynt yn heriol i’r rhai a ganfu fod eu hoff straeon wedi’u gadael allan.

Weithiau mae Sachareias ac Elisabeth yn cael eu gadael allan o stori’r Geni rydym yn ei hadrodd yn ein gwasanaethau carolau, ond mae Luc yn neilltuo cryn dipyn o le iddynt. Fel Abraham a Sarah, maent yn hen ac yn ddi-blant ond yn ffyddlon. Mae’n cymryd ymyrraeth ddwyfol i’w plentyn gael ei eni, ac mae hynny’n golygu y bydd yn ffigwr arwyddocaol – fel Isaac, neu Samson neu Samuel.

Nid yw’n syndod bod Sachareias yn cael ei lethu gan neges yr angel (adnod 18). Roedd y syniad y byddai gan ei wraig oedrannus fab a fyddai’n Elias arall yn ormod iddo. Oherwydd ei amheuaeth, mae Gabriel yn cymryd pŵer lleferydd oddi wrtho.

Efallai y bydd y stori hon yn ein difyrru, ond mae’n un heriol. Ar ôl oes o ddisgyblaeth dawel a ffyddlon, mae Sachareias wedi rhoi’r gorau i ddisgwyl i Dduw wneud unrhyw beth gwahanol yn ei fywyd. Pan fydd yn digwydd, nid yw’n ei groesawu ac mae’n ceisio ei wrthod. Efallai y bydd llawer o gredinwyr heddiw yn canfod eu hunain yn yr un sefyllfa. Mae’n arwyddocaol ei fod yn colli pŵer lleferydd; heb gred wirioneddol a gweithredol bod Duw ar waith, nid oes gennym ddim i’w ddweud.

Mae dechrau Efengyl Luc yn dangos Duw yn torri i mewn i’r byd ac yn newid bywydau. Mae’n dal i wneud hynny heddiw.

Gweddi

Gweddi

Duw, gad imi fod yn agored i glywed dy lais pan mae’n fy ngwthio o fy mharth cyfforddus. Helpa fi i fod yn barod i wrando pan ddoi di â rhywbeth newydd imi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible