Skip to main content

Dwy gân: Luc 1.46–79 (16 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 1.46–79

Enw can Mair yw’r ‘Magnificat’, yn seiliedig ar y gair cyntaf yn y fersiwn Lladin. Mae ei bwrpas yn anghyfforddus o chwyldroadol, rhywbeth nad ydym bob amser yn ei werthfawrogi wrth ei ddarllen. Mae cân Sachareias yn llai adnabyddus ond mae’n chwyldroadol hefyd, mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Yn yr hyn y mae Mair yn ei ddweud, dangosir bod Duw yn bendithio un unigolyn – Mair, a fydd yn fam i’r Meseia. Ond mae hefyd yn bendithio pawb sy’n ei anrhydeddu; ac mae’n bendithio’r gostyngedig, yr isaf a’r tlodion ar draul y balch, y cadarn a’r cyfoethog. Mae’r rhain yn eiriau radical iawn, ac maent yn herio popeth am sut rydym yn gwerthfawrogi pobl ac yn strwythuro ein cymdeithas. Mae newyddiadurwyr yn hoffi siarad am beth yw ‘gwerth’ ariannol pobl gyfoethog. Bydd Iesu’n troi hynny ar ei ben: dim cymaint â’r tlawd meddai. Sut le fyddai ein heglwysi pe byddem ni wir yn byw'r ymrwymiad hwn i dlodion a phobl esgeulusedig y byd?

Mae Sachareias ac Elisabeth yn dal i fod yn rhan o stori genedigaeth Iesu, ac mae gan Sachareias gân i’w chanu hefyd. Bydd ei fab yn broffwyd a fydd yn ‘mynd o flaen yr Arglwydd i baratoi'r ffordd ar ei gyfer’ (adnod 76). Ei neges fydd maddeuant a chymod personol: ‘Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o'r nefoedd’ (adnod 78). Mae’r golau’n gwawrio; mae Crist yn dod. Efallai yn y salmau hyn y gallwn graffu ar weledigaethau ychydig yn wahanol. Mae gweledigaeth Mair o gymdeithas sydd wedi’i thrawsnewid; mae gweledigaeth Sachareias o bobl sydd wedi’u trawsnewid. Mae Iesu’n newid y byd, ac mae’n newid chi a fi.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch dy fod yn caru’r tlawd a’r isaf; diolch dy fod yn fy ngharu i. ‘Anadla, anadl Iôr, Llanw fy mywyd i, Fel byddo ‘nghariad i a’m gwaith Yn un a’r eiddot ti.’


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible