Skip to main content

Ond mae gen innau feddwl hefyd!: Job 12 (Chwefror 13, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Job 12

Sut ydych chi'n teimlo pan fydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch chi a'ch credu, er gwaethaf y dadleuon neu'r dystiolaeth a ddarperir yn eich amddiffyniad? Yn y bennod heddiw, mae Job - yn teimlo ei fod yn cael ei gam-farnu a’i drin yn nawddoglyd - yn gadael i’w rwystredigaeth ddangos ac yn cyflwyno asesiad llym o gyngor ei ffrindiau.

Ydyn nhw'n meddwl eu bod nhw'n gwybod mwy am fawredd, pŵer a doethineb Duw nag y mae ef? ‘Dw i ddim gwaeth na chi,’ meddai (adnod 3) ac yn mynd ati i’w brofi. Mae eu dealltwriaeth ddofn, o sofraniaeth Duw yn wybodaeth gyffredin. ‘Yn ei law e mae bywyd pob creadur ac anadl pob person byw’ (adnod 10). Mae hyd yn oed y bwystfilod, adar, pysgod a bywyd planhigion yn gwybod mai Duw sy'n rheoli (adnodau 7–9)!

Pa fath o ffrindiau ydynt i drin Job fel jôc a'i gicio yn ystod ei gyfnod gwaethaf (adnodau 4-5)? Buont yn rhythu ar ei euogrwydd tybiedig, gan wrthod ystyried unrhyw esboniad arall am ei ddioddefaint. Mae'n eu herio i roi ei eiriau ar brawf priodol (adnod 11). Os yw dioddefaint i’r drygionus yn unig, pam mae troseddwyr yn byw mewn heddwch a diogelwch (adnod 6)? Pam mae Duw yn gweld yn dda i iselhau cynghorwyr, brenhinoedd, barnwyr ac offeiriaid uchel eu parch (adnodau 13-25)? A allai ffyrdd Duw fod yn fwy cymhleth nag y maent yn ei ddychmygu?

Os nad yw ffyniant ac iechyd yn arwydd o gyfiawnder yng ngolwg Duw, sut y gall Job wybod ei fod yn dderbyniol gan Dduw? Yr unig un sy’n gallu ateb y cwestiwn hwn a datgan Job yn ddieuog yw Duw a dyna pam mae Job eisiau dwyn ei achos ger ei fron ef.

A ydych erioed wedi cael eich cam-gynrychioli gan eraill? Diolch byth, nid yw ein cyhuddwyr yn cael y gair olaf. Mae Duw wedi rhoi’r awdurdod i farnu i Iesu (Ioan 5.22) ac nid yn unig ein barnwr ni ond ein gwaredwr. ‘Ond dydy'r rhai sy'n perthyn i'r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi!’ (Rhufeiniaid 8.1). Mae hyn yn newyddion anhygoel o dda!

Gweddi

Gweddi

Arglwydd Iesu, deuaf atat ti fel fy marnwr a gwaredwr. Diolch am farw yn fy lle a chynnig gras yn lle condemniad.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible