No themes applied yet
Job yn ymateb: Duw wnaeth hyn
1Dyma Job yn ateb:
2“Maeʼn amlwg eich bod chiʼn bobl mor bwysig!
Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd!
3Ond mae gen innau feddwl hefyd –
dw i ddim gwaeth na chi.
Mae pawb yn gwybod y pethau yna!
4Ond dw i wedi troiʼn destun sbort iʼm ffrindiau –
ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb.
Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!
5Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion –
‘Dyna syʼn digwydd pan mae dyn yn llithro!’
6Ond mae lladron yn cael bywyd braf,
aʼr rhai syʼn herio Duw yn byw yn saff –
ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
7Ond meddwch chi:
‘Gofyn iʼr anifeiliaid – byddan nhwʼn dy ddysgu;
neu iʼr adar – byddan nhwʼn dweud wrthot ti.
8Neu gofyn iʼr ddaear – bydd hiʼn dy ddysgu,
ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.
9Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod
mai Duw sydd wedi gwneud hyn?
10Yn ei law e mae bywyd pob creadur
ac anadl pob person byw.
11Ydyʼr glust ddim yn profi geiriau
fel maeʼr geg yn blasu bwyd?
12Onid pobl mewn oed syʼn ddoeth,
aʼr rhai sydd wedi bywʼn hir syʼn deall?’
13Duw ydyʼr un doeth a chryf;
ganddo fe y mae cyngor a deall.
14Does dim ailadeiladu beth mae e wediʼi chwalu;
na dianc iʼr sawl mae e wediʼi garcharu.
15Pan maeʼn dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn;
pan mae eʼn eu gollwng yn rhydd, maen nhwʼn boddiʼr tir.
16Duw ydyʼr un cryf a medrus;
maeʼr un sydd ar goll aʼr un syʼn camarwain
yn atebol iddo.
17Maeʼn arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth,
ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid.
18Maeʼn tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw,
ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw.
19Maeʼn arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth,
ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr.
20Maeʼn cau cegauʼr cynghorwyr ffyddlon,
ac yn diddymu cyngor y dynion doeth.
21Maeʼn dwyn anfri ar dywysogion,
ac yn diarfogiʼr rhyfelwr cryf.
22Maeʼn datguddio pethau dirgel y tywyllwch,
ac yn dod â phethau tywyll iʼr golau.
23Maeʼn gwneud i wledydd dyfu, ac ynaʼn eu dinistrio;
maeʼn estyn ffiniauʼr gwledydd ac ynaʼn eu chwalu.
24Maeʼn gwneud i arweinwyr y bobl fynd oʼu pwyll,
ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau;
25yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch,
ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015