Skip to main content

Nid y cyfiawn yn unig: Mathew 9.9–13 (28 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 9

Tra bod Iesu yn dewis ei ddisgyblion cyntaf yn edrych fel rhywbeth a ddigwyddodd ar hap, mae galw Mathew yn eithaf bwriadol – ond unwaith eto, nid oherwydd ei fod yn arbennig o gymwys. Casglwr trethi yw Mathew, neu mae’n cael ei gyflogi gan un. Yn hynny o beth, mae wedi cyd-fynd â’r gelyn Rhufeinig, yn gyfrifol am gadw’r Iddewon yn dlawd a dan ormes. Er y gallai gael ei groesawu yn ôl pe bai’n gadael ei swydd ac yn edifarhau yn briodol, ni fyddai Pharisead parchus yn cymdeithasu ag ef tan hynny. Mae Iesu’n ei alw at ffordd well o fyw, ac mae Mathew yn ei ddilyn.

Fodd bynnag, nid yw’r stori mor syml ag un pechadur yn edifarhau. Yn naturiol, mae ffrindiau a chydnabyddion Mathew hefyd yn bobl o’r tu allan, ond mae Iesu’n cwrdd â nhw ac yn bwyta gyda nhw yn ei dŷ. I ddefnyddio iaith rydym wedi dod i’w ddeall yn dda iawn, nid yw’n ofni cael ei ‘heintio’ gan eu pechod; nac yw’n cadw pellter cymdeithasol.

Y broblem gyda’r Phariseaid – pobl ddefosiynol, ddifrifol a geisiodd eu gorau i wneud ewyllys Duw – oedd bod sancteiddrwydd yn rhy aml o lawer yn ymwneud â’r hyn na wnaethant. Roedd yn ymwneud ag osgoi pechod a phechaduriaid, rhinwedd negyddol. Mae hwn yn ddull adnabyddadwy iawn ymhlith Cristnogion heddiw, hefyd. Ond mae Iesu’n troi hynny ar ei ben: aeth i ble'r oedd pechaduriaid. Yn hytrach na bod ofn cael eu heintio â’u pechod, mae’n eu heintio nhw â’i ras.

Mae’n ddealladwy ac yn iach bod Cristnogion eisiau bod gyda Christnogion o’r un anian. Ond os ydym o ddifri ynglŷn â dilyn Iesu, mae angen i ni fod yn barod i eistedd gyda phobl o’r tu allan hefyd.

 

Gweddi

Gweddi

Duw, mae’n ddrwg gen i os ydw i wedi ymbellhau oddi wrth bobl nad ydynt fel fi ac nad ydynt yn dy adnabod di. Helpa fi i ddilyn Iesu yn hyn: tyn fi allan o’m man cysur, a gad imi fod yn sianel i dy ras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible