Skip to main content

Gostegu’r stormydd: Mathew 8.23–27 (27 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 8

Mae Mathew 8 yn cynnwys cyfres o wyrthiau a chyfarfyddiadau ag Iesu. Mae pob un ohonynt yn enghreifftio rhywbeth o’i nerth a’i gymeriad. Mae’r stori fer hon yn aml-haenog. Wrth arddangos ei awdurdod dros y dymestl, mae’n cyfeirio’n ôl at ddelweddau o’r Hen Destament o’r môr fel anrhefn gyntefig, fel dyfroedd Genesis 1.2. Mae’r môr wedi’i bersonoli fel ‘Rahab’ yn Salm 89.9-10, efallai yn baralel barddonol i chwedl Babilonaidd y môr-gythraul Tiamat. Felly, wrth i Iesu ostegu’r storm y mae'n profi ei rym dwyfol dros anrhefn a thywyllwch.

Mae’r stori hefyd yn creu darlun dynol iawn: roedd y disgyblion wedi dychryn ac yn meddwl eu bod nhw’n mynd i farw. Roedd stormydd ar Galilea yn fflachio’n dreisgar ac yn gyflym, ac mae’n rhaid bod y pysgotwyr hyn wedi arfer â’r profiad – mae’n rhaid bod y storm yma wedi bod yn hollol anghyffredin. Mae Iesu, serch hynny, yn cysgu’n sownd; nid yw’n amser iddo farw eto.

Felly, mae hon yn stori gyfoethog iawn. Efallai mai un ffordd o’i darllen yw meddwl am y stormydd yn ein bywydau ein hunain. Boed yn salwch – neu, ar hyn o bryd, ofn salwch – diweithdra, siom neu wrthdaro, rydym i gyd yn wynebu treialon yn ein bywydau. Mae rhai ohonynt yn llethol. Mae’n teimlo fel petai holl rymoedd y tywyllwch wedi’i gosod yn ein herbyn, ac Iesu’n ddifater neu’n cysgu. Gall ein ffydd cael ei herio yn ofnadwy ar adegau fel hyn. Ond mae’r stori yn ein herio ni hefyd, gyda chwestiwn Iesu: ‘Pam wyt ti mor ofnus?’. Nid ydym ar ein pennau ein hunain; mae Iesu’n rheoli’r gwyntoedd a’r tonnau.

 

Gweddi

Gweddi

Duw, dysg imi ymddiried yn nerth Crist dros y stormydd yn fy mywyd. Pan gaf fy nhemtio i anobeithio a pheidio â synhwyro ei bresenoldeb, helpa fi i gofio ei fod gyda mi o hyd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible