Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.
Mae Mathew 10 yn cynnwys cyfarwyddiadau gweithredol Iesu ar gyfer ei ddisgyblion yn eu cenhadaeth i’w cyd-Iddewon. Eu neges yw ‘Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos’ (adnod 7).
Prif nodwedd y cyfarwyddiadau hyn yw hyder. Maent yn rhagfynegiadau o’r Deyrnas; er y gallent fod yn ddibwys yn unigol, mae pŵer nerthol y tu ôl iddynt.
Mae stori o hanes Rhufeinig sy’n darlunio hyn. Anfonwyd negesydd i atal rhyfel rhwng Antiochus Epiphanes, brenin mawr yr Ymerodraeth Seleucaidd, a’r Aifft. Cyfarfu’r negesydd a’i ychydig weision ag Antiochus a’i fyddin helaeth. Yn hytrach na’i gyfarch â pharch, fodd bynnag, tynnodd linell yn y tywod o’i gwmpas gyda ffon, a gorchmynnodd iddo beidio â chamu y tu allan iddi nes iddo benderfynu a ddylid cydymffurfio ai pheidio.
Roedd y negesydd yn ddyn bregus, ond daeth ei hyder o wybod bod nerth Rhufain y tu ôl iddo. Nid oedd ond yn llais ar gyfer rhywbeth llawer mwy.
Mewn oes pan ymddengys – yng Ngorllewin Ewrop o leiaf – nad yw pethau’n mynd o blaid yr eglwys a phan mae’n hawdd teimlo ein bod dan warchae, efallai bod hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei glywed. Gall fod yn anodd cynnal hyder – yn yr Arglwydd ac yn yr Ysgrythurau – pan fyddwn yn teimlo’n ynysig ac yn agored i niwed. Ond rydym yn dilyn yn olion traed Iesu; ‘Mae'n ddigon i ddisgybl fod yn debyg i'w athro, ac i gaethwas fod fel ei feistr’ (adnod 25).
Nid o’n nerth ein hunain y daw ein hyder, ond o nerth Duw.
Duw, pan fyddaf yn teimlo’n wan, neu ar fy mhen fy hun, neu’n digalonni, helpa fi i gofio fy mod yn was i frenin y brenhinoedd, ac i beidio ag ofni.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl