Skip to main content

Hebreaid 6.1–8: Mae angen i ni symud ymlaen! (30 Ebrill 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebreaid 6.1–8

Mae geiriau agoriadol y bennod hon yn drawiadol iawn. Mae'r awdur, a oedd yn ysgrifennu mewn cyfnod o erledigaeth, yn awyddus i bwysleisio bod angen dal gafael yn dynn yn y gwirionedd. Mae hyd yn oed yn dweud ei bod hi'n amhosibl arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato (adnod 4). Dyma rybudd difrifol bod ein perthynas â Duw yn un ddwy ffordd: mae ef bob amser yn ffyddlon ac yn cadw ei gyfamod â ni, ond mae arnom ninnau gyfrifoldeb i gadw ein haddewidion hefyd. 

Ond hyd yn oed yng nghyd-destun sefyllfa lle mae'n debygol bod rhai'n troi cefn ar y ffydd oherwydd ofn, nid gweld credinwyr yn goroesi yn unig y mae’r awdur yn ei ddymuno – mae eisiau eu gweld yn ffynnu. ‘Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto – yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw,’ meddai (adnod 1). 

Efallai fod gan hyn wersi ar gyfer heddiw. Gallem gael ein temtio i feddwl mai pan fydd pethau’n ‘normal’ yn unig y gallwn ffynnu'n ysbrydol – pan allwn fynd i'r eglwys neu i grwpiau cartref fel y mynnom, cwrdd â'n ffrindiau, gweddïo gyda nhw, a dilyn ein harferion beunyddiol. Ond nid dyna fu profiad pobl Dduw bob amser. Mae llawer yn byw mewn sefyllfaoedd heriol beth bynnag, lle mae goroesi ynddo’i hun yn frwydr, ac mae llawer yn cael eu herlid. Ond mae eu ffydd yn aml yn ddyfnach o lawer na'r rhai sydd â bywydau mwy cyfforddus. 

Mae'r llythyr at yr Hebreaid yn ein hatgoffa nad yw caledi personol yn rheswm dros ddifaterwch ysbrydol. 

Gweddi

Gweddi

Dduw, helpa fi i ddysgu mewn cyfnodau anodd. Cadw fy llygaid yn ddiysgog arnat, ac arwain fi i ffydd aeddfed a llawn ymddiriedaeth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible