Skip to main content

Hebreaid 7.11–28: Yr offeiriad sy'n diwallu ein hanghenion (1 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebreaid 7.11–28

Wrth inni ddarllen y bennod hon, efallai y byddai'n help inni ein hatgoffa ein hunain o deitl y llyfr – y llythyr at yr Hebreaid. Mewn geiriau eraill, mae wedi'i anelu at Gristnogion Iddewig sydd wedi'u trwytho yn yr hyn a alwn yn Hen Destament. Roeddent yn chwilio am olion o Iesu yn yr Ysgrythurau yr oeddent wedi bod yn gyfarwydd â nhw ers cyfnod plentyndod. Mae dehongliad yr awdur o Melchisedec, y ffigur dirgel sy'n ymddangos yn un o storïau Abraham (Genesis 14.17–21), yn gosod Iesu ar wahân i offeiriadaeth llinach Aaron. Nid rhyw offeiriad arall yn unig mohono, ond i Dduw’n unig y mae’n ddyledus am ei statws: ‘Ddaeth hwn ddim yn offeiriad am fod y rheolau'n dweud hynny (am ei fod yn perthyn i lwyth arbennig); na, ond am fod nerth y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo’ (adnod 16). 

Mae hyn i gyd yn atgyfnerthu'r ddadl a welwn drwy gydol y llythyr at yr Hebreaid: mae Iesu yn wahanol. Oherwydd ei archoffeiriadaeth ddwyfol, mae ‘Iesu'n gallu achub un waith ac am byth y bobl hynny mae'n eu cynrychioli o flaen Duw! Ac mae e hefyd yn fyw bob amser i bledio ar eu rhan nhw’ (adnod 25).

Mae offeiriad yn ddolen rhwng dau fyd, y dynol a'r dwyfol. Y gair Lladin am 'offeiriad' yw ‘pontifex’, ‘codwr pontydd’; dyna'r hyn a wnânt, er eu bod yn wan ac yn amherffaith yn bersonol. Iesu yw ein pont – ond yn wahanol i'r pontydd rhaff peryglus y mae gwneuthurwyr ffilmiau mor hoff ohonynt, gyda'u hestyll pwdr a'u ceblau rhaflog, mae ef yn gwneud ffordd berffaith inni at Dduw. 

Gweddi

Gweddi

Dduw, diolch iti am estyn dy law at dy fyd syrthiedig a rhoi inni ffordd yn ôl atat ti. Helpa fi i fod yn godwr pontydd hefyd, gan arwain eraill at Grist, sef y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd. 


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible