Skip to main content

Hebreaid 5.1–10: Mae Duw yn addfwyn ac yn ostyngedig (29 Ebrill 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebrews 5.1–10

Yn y bennod hon mae'r awdur yn parhau i fyfyrio ar Iesu fel yr Archoffeiriad. Mae'n unigryw ei hun, yn hytrach na bod yn un o’r offeiriaid sydd yn llinach Aaron (adnod 10). Yn wahanol i archoffeiriaid eraill, nid oedd rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun (adnod 3). 

Mewn un maes, fodd bynnag, mae fel offeiriaid eraill: mae'n ‘gallu bod yn sensitif wrth ddelio gyda phobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu ac wedi cael eu camarwain’(adnod 2). Dyma batrwm i'r rhai sy'n gweinidogaethu heddiw. Nid yw bugeiliaid sy'n llym ac yn disgwyl llawer gan eu cynulleidfaoedd yn ymddwyn fel Crist; yn rhy aml o lawer maent yn ceisio datrys materion personol ar draul eu pobl, ac yn aml nid yw gweinidogaethau fel hyn yn llwyddo. Hyd yn oed pan fydd y byd, efallai, yn barnu eu bod yn ‘llwyddiannus’ – llawer yn mynychu, llawer o arian wedi'i godi – mae elfen o ysbryd Crist ar goll ynddynt. Yn Matthew 11.29 dywed Iesu ‘Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig’, a dyma'r patrwm i'w ddilynwyr hefyd. 

Rydym hefyd yn efelychu ei ufudd-dod cost-fawr i'w Dad: ‘Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd drwy beth wnaeth e ddioddef’ (adnod 8). Nid oedd bod yn fab yn ei ddiogelu rhag dioddefaint, ond fe'i hyfforddodd i fod yn ffyddlon. Bydd yr adegau anodd yr ydym yn eu hwynebu nawr yn ein rhoi ni i gyd ar brawf, ond efallai y bydd Cristnogion yn gweld bod ein ffydd yn cryfhau ac yn dyfnhau o'u herwydd – ac y gallwn ninnau hefyd ddod yn fendith i eraill. 

Gweddi

Gweddi

Dduw, yn y cyfnod cythryblus hwn helpa fi i ymholi beth gallaf ei ddysgu am fod yn ddisgybl ffyddlon. Calonoga a chryfha fi ag esiampl Crist, a ddysgodd drwy ddioddef. 


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible