Skip to main content

‘Faint mwy’: Rhufeiniaid 5.1–21 (14 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 5

Mae yna thema glir yn y bennod hon, er – fel gweddill Rhufeiniaid – mae’n ddwys a llawn ymresymiad. Mae Paul wedi ei lethu gan ymdeimlad o gwmpasedd a graddfa iachawdwriaeth. Nid yw’n ddigon i Dduw fod wedi maddau i ni – ‘mae'r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!’ (adnod 8). Dyna, mae’n ymddangos i ddweud, oedd y weithred sylfaenol a’n rhoddodd yn ôl ar y trywydd iawn. Ond mae gan Dduw fwy i’w gynnig: ‘gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw!’ (adnod 10).

Mae Paul yn siarad am bechod fel llai na daioni. Mae’n llai ac yn wannach – ddim yn ddibwys nac yn gwbl ddi-rym, ond dim o’i gymharu â gras Duw. Mae gras yn rhyfeddol; mae Duw yn rhoi llawer mwy nag a gollwyd erioed yn Eden, oherwydd mae Crist yn fwy o bell ffordd na fu Adda erioed. ‘Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd bod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu'r Meseia), bydd y rhai sy'n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol’ (adnod 17).

Nid oedd y beirniad a’r ysgrifennwr Kenneth Tynan yn grediniwr, ond roedd yn edmygydd mawr o C.S. Lewis, a’i haddysgodd ef yn Rhydychen. Dywedodd amdano unwaith, ‘'How thrilling he makes goodness seem, how tangible and radiant’. Os cawn ein digalonni weithiau gan y pethau ofnadwy yr ydym yn clywed amdanynt neu’n eu profi, mae gennym hynny i’w roi ar waith yn eu herbyn: disgleirdeb diriaethol, gwefreiddiol daioni Duw.

Gweddi

Gweddi

Duw, gwefreiddia fi â gweledigaeth o dy ras. Pan fydd drygioni’r byd yn fy llethu, atgoffa fi o gyfoeth cariad Crist.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible