Skip to main content

Credu yn Nuw: Rhufeiniaid 4 (13 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 4

Yn Rhufeiniaid 4 mae Paul yn parhau â’i ymosodiad ar y syniad mai trwy ‘weithredoedd y Gyfraith’ y mae pobl yn cael eu gwneud yn iawn â Duw. Ni all hynny fod yn wir, meddai, oherwydd derbyniwyd Abraham gan Dduw yn ‘gyfiawn’ cyn iddo gael ei enwaedu, ar sail ei gred. Meddai, ‘Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod drwy'r ddefod o gael eu henwaedu’ (adnod 11).  Roedd y syniad mai Abraham oedd tad ysbrydol Cenhedloedd crediniol yn ogystal ag Iddewon yn wirioneddol radical. 

Mae dadl Paul, serch hynny, yn gwneud inni feddwl yn galetach am yr hyn y mae’n ei olygu wrth ‘gred’. Mae’n amlwg nad yw’n golygu cydsyniad deallusol i’w fodolaeth yn unig, sef sut rydym yn tueddu i feddwl am ‘gredu yn Nuw’ heddiw. Meddai Paul, ‘Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu’ (adnod 18); roedd ei gred yn canolbwyntio ar addewid Duw y byddai ef a Sara, hyd yn oed fel cwpl hŷn, yn cael plant. Yn Hebreaid 11.1, diffinnir ffydd fel ‘sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld’. Mae’r awdur (nid Paul) yn sôn am rai o gredinwyr mawr yr Hen Destament, gan ddweud eu bod yn ‘[b]obl ddieithr yn crwydro'r tir’; ‘roedden nhw'n dyheu am rywle gwell – am wlad nefol’ (11.13, 16).

Felly efallai bod ‘credu Duw’ yn golygu rhywbeth megis: ymddiried ynddo, cerdded gydag ef o ddydd i ddydd, a gadael i’n bywydau gael eu siapio nid gan yr hyn rydym ni ei eisiau, na’r hyn y mae pobl eraill yn ei ddymuno neu’n ei feddwl sy’n iawn, ond gan ei ewyllys a’i orchmynion Ef.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gredu ynot ti nid yn unig gyda fy meddwl, ond gyda fy nghalon ac enaid ac ewyllys. Helpa fi i ymddiried ynot ti a dy ddilyn ym mhob peth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible