No themes applied yet
Y greadigaeth yn dangos ysblander Duw
Iʼr arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Maeʼr nefoedd yn dangos ysblander Duw,
aʼr awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2Maeʼr neges yn mynd allan bob dydd;
mae iʼw gweld yn amlwg bob nos!
3Does dim llais go iawn, na geiriau,
na dim iʼw glywed yn llythrennol.
4Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhwʼn ddweud;
aʼr neges wedi mynd i ben drawʼr byd!
Cododd babell iʼr haul yn yr awyr.
5Maeʼn dod allan fel priodfab oʼi ystafell;
neu athletwr yn frwd i redeg ras.
6Maeʼn codi ar y gorwel,
ac yn symud o un pen iʼr llall.
Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
7Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith –
maeʼn rhoi bywyd newydd i mi!
Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir
ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
8Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth syʼn iawn
ac yn gwneud y galon yn llawen.
Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur
ac yn ein goleuo ni.
9Maeʼr gorchymyn i barchuʼr ARGLWYDD yn glir
ac yn aros bob amser.
Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir –
mae eʼn gwbl deg bob amser.
10Maeʼr pethau ymaʼn fwy gwerthfawr nag aur –
ie, llwythi o aur coeth!
Maen nhwʼn felysach naʼr mêl
syʼn diferu oʼr diliau.
11Ydyn, maen nhwʼn rhoi goleuni i dy was;
ac mae gwobr fawr iʼr rhai syʼn ufuddhau.
12Ond pwy syʼn gweld ei feiau ei hun?
O, maddau i mi pan dw iʼn pechu heb wybod,
13a chadw fi rhag pechuʼn fwriadol.
Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i.
Yna byddaf yn ddi-fai,
a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
14Gad iʼr cwbl dw iʼn ei ddweud aʼi feddwl
dy blesio di,
O ARGLWYDD, fy nghraig aʼm hachubwr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015