No themes applied yet
Dathlu gofal Duw
(2 Samuel 22:1-51)
Iʼr arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr ARGLWYDD. Canodd eiriauʼr gân hon ar ôl iʼr ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion, ac o afael Saul.18:0 1 Samuel 23:7-14 Dyma ddwedodd e:
1Dw iʼn dy garu di, ARGLWYDD;
ti syʼn rhoi nerth i mi.
2Maeʼr ARGLWYDD fel craig i mi,
yn gastell ac yn achubwr.
Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani,
yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
3Galwais ar yr ARGLWYDD syʼn haeddu ei foli,
ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
4Rôn iʼn boddi dan donnau marwolaeth;
roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
5Roedd rhaffau byd y meirw oʼm cwmpas,
a maglau marwolaeth oʼm blaen.
6Galwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt,
a gweiddi ar fy Nuw.
Roedd yn ei deml, a chlywodd fy llais;
gwrandawodd arna iʼn galw.
7Yna, dymaʼr ddaear yn symud a chrynu.
Roedd sylfeiniʼr mynyddoedd yn crynu
ac yn ysgwyd am ei fod wedi digio.
8Daeth mwg allan oʼi ffroenau,
a thân dinistriol oʼi geg;
roedd marwor yn tasgu ohono.
9Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.
Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
10Marchogai ar gerwbiaid yn hedfan,
a chodi ar adenydd y gwynt.
11Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto – cymylau duon stormus,
a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau oʼi gwmpas.
12Roedd golau disglair oʼi flaen;
saethodd mellt oʼr cymylau,
cenllysg a marwor tanllyd.
13Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr –
sŵn llais y Goruchaf yn galw.18:13 yn galw Hebraeg yn ychwanegu “cenllysg a marwor tanllyd” (o adn. 12 maeʼn debyg).
14Taflodd ei saethau a chwaluʼr gelyn;
roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
15Daeth gwelyʼr môr iʼr golwg;
ac roedd sylfeiniʼr ddaear yn noeth
wrth i ti ruo, O ARGLWYDD,
a chwythu anadl o dy ffroenau.
16Estynnodd i lawr oʼr uchelder a gafael ynof;
tynnodd fi allan oʼr dŵr dwfn.
17Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,
aʼr rhai syʼn fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
18Dyma nhwʼn ymosod pan oeddwn mewn helbul,
ond dymaʼr ARGLWYDD yn fy helpu i.
19Daeth â fi allan i ryddid!
Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
20Maeʼr ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.
Dw i wedi bywʼn gyfiawn; mae fy nwyloʼn lân
ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
21Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,
heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
22Dw i wedi cadw ei ddeddfauʼn ofalus;
dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
23Dw i wedi bod yn ddi-fai
ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
24Maeʼr ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.
Dw i wedi bywʼn gyfiawn,
ac mae e wedi gweld bod fy nwyloʼn lân.
25Rwyt tiʼn ffyddlon iʼr rhai syʼn ffyddlon,
ac yn deg âʼr rhai di-euog.
26Maeʼr rhai di-fai yn dy brofiʼn ddi-fai,
ond rwyt tiʼn fwy craff naʼr rhai anonest.
27Tiʼn achub pobl syʼn dioddef,
ond yn torri crib y rhai balch.
28Ie, ti syʼn cadw fy lamp yn llosgi, o ARGLWYDD;
fy Nuw syʼn rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
29Gyda ti gallaf ruthro allan iʼr frwydr;
gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
30Mae Duw yn gwneud beth syʼn iawn;
maeʼr ARGLWYDD yn dweud beth syʼn wir.
Mae fel tarian yn amddiffyn pawb syʼn troi ato.
31Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?
Oes craig arall ar wahân iʼn Duw ni?
32Fe ydyʼr Duw syʼn rhoi nerth i mi –
maeʼn symud pob rhwystr oʼm blaen.
33Maeʼn rhoi coesau fel carw i mi;
fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
34Dysgodd fi sut i ymladd –
dw iʼn gallu plygu bwa o bres!
35Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian;
mae dy law gref yn fy nghynnal.
Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
36Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen
a wnes i ddim baglu.
37Es ar ôl fy ngelynion, aʼu dal nhw;
wnes i ddim troiʼn ôl nes roedden nhw wedi darfod.
38Dyma fiʼn eu taro nhw i lawr,
nes eu bod yn methu codi;
roeddwn iʼn eu sathru nhw dan draed.
39Ti roddodd y nerth i mi ymladd;
ti wnaeth iʼr gelyn blygu oʼm blaen.
40Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.
Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
41Roedden nhwʼn galw am help,
ond doedd neb iʼw hachub!
Roedden nhwʼn galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed!
Ond wnaeth e ddim ateb.
42Dyma fiʼn eu malu nhwʼn llwch iʼw chwythu i ffwrdd gan y gwynt;
aʼu taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.
43Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.
Gwnest fiʼn bennaeth ar y gwledydd.
Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw
yn derbyn fy awdurdod.
44Maen nhwʼn plygu wrth glywed amdana i –
ie, estroniaid yn crynu oʼm blaen!
45Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,
ac yn crynu wrth ddod allan oʼu cuddfannau.
46Ydy, maeʼr ARGLWYDD yn fyw!
Bendith ar y graig syʼn fy amddiffyn i!
Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
47Fe ydyʼr Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,
a gwneud i bobloedd blygu oʼm blaen.
48Fe ydyʼr Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,
aʼm cipio o afael y rhai syʼn fy nghasáu.
Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
49Felly, O ARGLWYDD,
bydda iʼn dy foli di o flaen y cenhedloedd
ac yn canu mawl i dy enw:
50maeʼn rhoi buddugoliaeth iʼw frenin –
un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!
Maeʼn aros yn ffyddlon iʼw eneiniog –
i Dafydd, ac iʼw ddisgynyddion am byth.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015