Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Yn ôl y Beibl, mae’n ymddangos bod Solomon wedi byw bywyd wedi’i liwio gan dreuliant goramlwg. Nid oedd dim y byddai’n gwarafun iddo’i hun; roedd ar raddfa a fyddai’n gwneud i oligarch Rwsiaidd edrych ychydig yn llwm. Yn y bennod hon cyflwynir ei aur, arian, ifori ac epaod (adnod 22), ei bren a’i sbeisys gwerthfawr, ei orsedd llew a’i fyddin a’u hoffer safonol, fel gwrthrychau rhyfeddod.
Ond nid yw mor syml â hynny. Mae’r awdur yn gwybod bod golud Solomon wedi’i etifeddu i raddau helaeth gan ei dad Dafydd, nad oedd ganddo flas ar y fath ormodedd. Ar ôl dechrau da, trodd Solomon ei gefn ar Dduw. A gyfrannodd ei gyfoeth at ei gwymp ysbrydol? Mae’n anodd dychmygu na chafodd unrhyw effaith arno.
Nid yw’r Beibl yn beirniadu cyfoeth fel y cyfryw. Ond mae’n dweud wrthym fod gan bobl gyfoethog gyfrifoldebau y gallent ei chael hi’n anodd ei cyflawni. Yn Diarhebion mae’n dweud, ‘paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi ‘. Mae’r awdur yn gofyn am ddigon, heb fod yn ormodol nac yn annigonol: ‘Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, “Pwy ydy'r ARGLWYDD?”. A chadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd, a rhoi enw drwg i Dduw’ (30:8-9). Ac mae Iesu’n rhybuddio ei ddisgyblion ‘Gadewch i mi ddweud eto – mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.’ (Mathew 19.24).
Mae tlodi go iawn yn beth erchyll a hyll. Ond gall cyfoeth guddio hagrwch ysbrydol. Roedd Solomon, fel pob un ohonom ni, o dan farn Duw.
Duw, rwyt yn gwybod fy anghenion ac rwyt yn adnabod fy nghalon. Rho ddigon i mi, a gad i mi beidio â chael fy nhemtio oddi wrth dy wasanaeth gan bethau’r byd hwn.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.