Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae awdur 1 Brenhinoedd yn priodoli cwymp ysbrydol Solomon i’r nifer o ferched estron a gymerodd fel gwragedd neu ordderchwragedd. Heb os, byddai llawer wedi eu caffael fel symbolau statws neu yn ystod diplomyddiaeth, ond roedd elfen gref o chwant rhywiol o hyd (adnod 1). Unwaith eto, cyfoeth a phŵer Solomon yw ei gwymp: os yw beth bynnag a fynnoch ar gael, mae’n cymryd ymdeimlad cryf o dda a drwg i chi wrthod yr hyn rydych chi ei eisiau. Yn achos Solomon, roedd yna gylch dieflig: roedd ganddo chwant am ferched a ddaeth a’u harferion crefyddol eu hunain gyda nhw i’w lys, ac yn raddol gwanhaodd ei berthynas â Duw Israel: ‘Wrth iddo fynd yn hŷn dyma'i wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr’ (adnod 4) – gan gynnwys Molech, a oedd yn arbenigo mewn aberthu plant trwy dân. Hynny yw, roedd yn ymddwyn fel pob brenin unbenaethol arall ar y pryd.
Mae Solomon yn darlunio gwirionedd dameg Iesu o’r heuwr a’r had a ddisgynnodd ymhlith drain, gan sefyll dros y ‘sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd’ (Mathew 13.22). Pan fyddwn yn cyfaddawdu neu’n tyfu’n ddifater tuag at ein ffydd, gallem feddwl ein bod yn wybodus ac yn fodern iawn. Ond rydym yn achosi helbul i ni’n hunain a’r rhai sy’n dod ar ein holau. Mae ‘oes aur’ sy’n anwybyddu Duw yn dwyll; mae’n freuddwyd ofer, yn dŷ wedi’i adeiladu ar dywod.
Duw, pan fydd pethau’n mynd yn dda i mi, cadwa fy llygaid arnat ti. Helpa fi i fod yn ffyddlon, a chadw fi rhag meddwl byth nad ydw i dy angen di.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.