Skip to main content

Dameg y Ddafad Golledig: Luc 15.1–8 (30 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 15.1–8

Mae hon yn bennod sy’n ymwneud â phethau coll. Rydym yn gweld cyfeiriadau at ddafad, darn arian a mab sy’n gofyn am ei etifeddiaeth o flaen llaw ac yn ei wastraffu. Os ydym yn canolbwyntio ar y defaid coll, rydym yn canfod stori sydd wedi’i alw yn ‘yr efengyl yn yr efengyl’ gan William Barclay – hanfod pam y daeth Iesu i’n plith.

Roedd Iesu’n ymgysylltu â chasglwyr trethi a phechaduriaid yn tramgwyddo’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid. Dewis bwriadol yr arweinwyr crefyddol oedd osgoi pob cysylltiad â’r rhai nad oeddynt yn cadw at y gyfraith. Ac eto, mae Iesu’n herio hyn trwy stori’r ddafad golledig, gan siarad mewn termau y byddai’r gwrandawyr yn eu deall. Byddai’r bobl Iddewig yn deall y byddai pob bugail yn peryglu ei fywyd am ei ddefaid a phe bai un yn mynd ar goll, byddai’r bugail yn mynd i edrych amdani ac yn cael ei groesawu gyda dathliad pe byddent yn dod o hyd iddi.

Am stori bwerus am obaith, yn ddarlun bod gan Dduw ddiddordeb mewn achub yr un! Rwy’n gallu uniaethu gyda’r ddameg hon ar hyn o bryd ar ôl mabwysiadu bachgen tair oed, a fu ar goll yn y system. Fe wnaeth ei ganfod a dod ag ef adref newid cwrs ei fywyd. Mae’r efengyl yn llawn chwilio am yr ‘un’ – bod hynny yn ddafad, darn arian neu’n fab.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa fi i weld yr un person hwnnw sydd ar goll. Gad imi eu gweld trwy dy lygaid. Gad imi byth beidio ag anwybyddu'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud ym mywyd un person. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Nigel Langford, Pennaeth Cysylltiadau Eglwysig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible