Skip to main content

Gwrth-Semitig?: Luc 14.15–24 (29 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch am dy air. Helpa fi i wrando. Helpa fi i ymddiried. Helpa fi i weithredu.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 14.15–24

A yw’r Testament Newydd yn wrth-Semitig? Yn hanesyddol, defnyddiwyd adnodau megis ‘Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant’ (Mathew 27.25 BCND) i nodi Iddewon fel llofruddion Iesu ac i gyfiawnhau trais yn eu herbyn. Mae rhai darnau yn yr Efengylau a llyfr yr Actau yn sôn am ‘yr Iddewon’ fel y rhai sy’n gwrthwynebu Iesu a’i ddilynwyr. Ac wrth edrych ar y cyd-destun – Dameg y goeden ffigys diffrwyth (Luc 13.6-9), Jerwsalem yn gwrthod Iesu (Luc 13.31-35) – mae’n debyg nad yw Dameg y Wledd Fawr heddiw yn wahoddiad i bobl ar gyrion y gymdeithas Iddewig yn unig i ymateb i Dduw, ond hefyd yn gyfeiriad at Iddewon yn gwrthod Iesu a Chenhedloedd yn ei gofleidio.

Ond, er bod y Testament Newydd wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol i gyfiawnhau erchyllterau yn erbyn pobl Iddewig, nid yw’n wrth-Iddewig. Mae’r Hen Destament yn llawn dadleuon yn erbyn Israel, nid ar sail ethnigrwydd ond ei gwrthryfel yn erbyn Duw. Yn yr un modd ysgrifennwyd y Testament Newydd bron yn gyfan gwbl gan Iddewon ond mae’n cydnabod y ffaith bod y mwyafrif o’u cyfoeswyr wedi gwrthod y syniad y gallai Iesu fod yn Feseia.

Mae’r ddameg yn siarad nid yn unig am y rhai a wrthododd y gwahoddiad i wledda heb obaith o gael ail gyfle, ond yn fwy na dim yn amlygu haelioni'r gwesteiwr. Mae daioni Duw yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r mawr a’r da. Nid yw ei ras yn rhywbeth yr ydym yn ei haeddu ond gallwn ei dderbyn fel rhodd am ddim ganddo.

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Arglwydd, am fy ngwahodd i gymundeb â thi, gyda fy holl ffaeleddau. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible