Skip to main content

Dameg y dyn cyfoethog a Lasarus: Luc 16.19–31 (1 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 16.19–31

Stori o wrthgyferbyniadau yw hon – dyn cyfoethog nad oedd angen dim arno, a dyn tlawd o’r enw Lasarus a oedd yn amddifad ym mhob ffordd. Mewn gwlad lle’r oedd y bobl gyffredin yn ffodus pe byddent yn bwyta cig unwaith mewn wythnos, mae’r dyn cyfoethog yn ffigwr o hunan-foddhad eithafol. Yn wyneb anghydraddoldeb o’r fath rydym yn canfod Lasarus. Yn rhyfedd iawn ef yw’r unig gymeriad yn y damhegion sy’n cael ei enwi. Efallai bod hyn yn adlewyrchu calon Duw ar gyfer y tlawd a’r bregus.

Adlewyrchir y sefyllfa hon ledled y byd. Rydym yn ei weld ar y teledu, wrth ddarllen straeon ar ein ffonau a hyd yn oed yn profi’r math hwn o boen yn ein bywydau ein hunain. Mae Iesu’n uniaethu mewn ffordd hynod â’r rhai sy’n dlawd, yn dor-calonnus ac ar drugaredd cymdeithas.

Gallem ganolbwyntio ar lawer o wahanol agweddau, ond fy her i bob un ohonom, wrth inni ddarllen y testun hwn, yw a ydym yn sylwi ar ‘Lasarus’ yn ein bywydau bob dydd. A oes rhai sy’n llwglyd a heb unrhyw obaith, y gallem yn hawdd eu hanwybyddu? Neu a yw Iesu’n gofyn i ni gadw golwg ar y rhai sydd mewn angen amlwg? Efallai aelod o’r teulu, cymydog, dieithryn neu berson digartref rydych chi’n ei weld bob dydd?

Gweddi

Gweddi

Annwyl Arglwydd, rwy’n gweddïo y byddaf yn gweld yr hyn rwyt yn ei wneud. Helpa fi i sylwi ar bobl mewn angen y gallaf wneud gwahaniaeth iddynt, dim ond trwy weithred o garedigrwydd a haelioni. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Nigel Langford, Pennaeth Cysylltiadau Eglwysig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible