Skip to main content

Cyfamod yr enwaediad: Genesis 17.1–10 (Ionawr 16 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 17.1–10

Yn ôl y stori, mae ffydd Abraham yn Nuw bellach wedi cael ei roi ar brawf o ddifrif. Mae'n 13 blynedd ers genedigaeth Ismael, ac nid oes unrhyw arwydd o fab i Sara. Nawr mae'r arwydd enwaediad i'w osod ar holl wrywod ei deulu fel marc corfforol o'r cyfamod ysbrydol y mae Duw wedi'i wneud gydag ef. Bydd ef a Sara yn cael eu henwau newydd. Dim ond ar ôl hyn y bydd Isaac yn cael ei eni.

Mae'r addewidion y mae Duw yn eu gwneud i Abraham yn helaeth: bydd yn dad i lawer o genhedloedd, a bydd y cyfamod yn 'dragwyddol' (adnod 7). Bydd ef a'i ddisgynyddion yn derbyn holl wlad Canaan am byth.

Daw'r cyfamod, serch hynny, â chyfrifoldebau. Mae Duw yn gwneud addewidion, ond maen nhw'n dod â rhwymedigaethau. Ni all Abraham a'i ddisgynyddion ddisgwyl derbyn holl fendithion y cyfamod os nad ydynt yn cadw eu hochr nhw o'r cytundeb – fel oedd y proffwydi dro ar ôl tro i'w rhybuddio. Felly dywed Duw: ‘Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau' (adnod 1).

Pan rydym wedi ymuno â phobl Dduw – wedi ein himpio ar y goeden olewydd, fel mae Paul yn ei roi yn Rhufeiniaid 11 – rydym yn gwybod y bydd Duw bob amser yn cadw ei addewidion i ni. Ond ni ddylai hyn ein gwneud yn hunanfodlon: rydym yn cael ein galw i fod yn sanctaidd, ac mae hyn yn golygu gwneud dewisiadau caled. Gyda braint daw cyfrifoldeb.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch y gallaf rannu ym mendithion dy gyfamod. Helpa fi i gyflawni'r cyfrifoldebau sy'n dod, ac i dy anrhydeddu yn y ffordd rydw i'n byw.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible