No themes applied yet
Hawlio arwydd
(Marc 8:11-13; Luc 12:54-56)
1Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
2Atebodd nhw, “Pan maeʼr haul yn machlud dych chiʼn dweud, ‘Bydd hiʼn braf fory – maeʼr awyr yn goch,’ 3ac yn y bore, ‘Bydd hiʼn stormus heddiw – maeʼr awyr yn goch aʼr cymylauʼn ddu.’ Dych chiʼn gwybod sut maeʼr tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion o beth syʼn digwydd nawr. 4Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon syʼn gofyn am gael gweld gwyrth fyddaiʼn arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd.
Burum y Phariseaid aʼr Sadwceaid
(Marc 8:14-21)
5Pan groesodd y disgyblion i ochr arall y llyn, roedden nhw wedi anghofio mynd â bara gyda nhw.
6Meddai Iesu wrthyn nhw, “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid aʼr Sadwceaid.”
7Wrth drafod y peth dymaʼr disgyblion yn dod iʼr casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw.
8Roedd Iesuʼn gwybod beth oedden nhwʼn ei drafod, ac meddai, “Ble maeʼch ffydd chi? Pam dych chiʼn poeni eich bod heb fara? 9Ydych chiʼn dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofioʼr pum torth i fwydoʼr pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu?16:9 Mathew 14:17-21 10Neuʼr saith torth i fwydoʼr pedair mil, a sawl llond cawell wnaethoch chi eu casglu?16:10 Mathew 15:34-38 11Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid aʼr Sadwceaid.” 12Roedden nhwʼn deall wedyn mai nid sôn am fara go iawn oedd e; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid aʼr Sadwceaid oedd e.
Datganiad Pedr
(Marc 8:27-30; Luc 9:18-21)
13Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd iʼw ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
14“Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill etoʼn dweud Jeremeia neu un oʼr proffwydi.”
15“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chiʼn ddweud ydw i?”
16Atebodd Simon Pedr, “Ti ydyʼr Meseia, Mab y Duw byw.”
17“Rwyt ti wedi dy fendithioʼn fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd. 18A dw iʼn dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‘y garreg’). A dymaʼr graig dw iʼn mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi. 19Dw iʼn mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt tiʼn ei rwystro ar y ddaear wediʼi rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt tiʼn ei ganiatáu ar y ddaear wediʼi ganiatáu yn y nefoedd.” 20Yna dyma Iesuʼn rhybuddioʼi ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.
Iesuʼn dweud ei fod yn mynd i farw
(Marc 8:31–9:1; Luc 9:22-27)
21O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio iʼw ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddaiʼr arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid aʼr arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddioddeʼn ofnadwy. Byddaiʼn cael ei ladd, ond ynaʼn dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
22Dyma Pedr yn mynd ag e iʼr naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw aʼn gwaredo!” meddai, “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!”
23Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos oʼm golwg i Satan! Rwyt tiʼn rhwystr i mi; rwyt tiʼn meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duwʼn eu gweld nhw.”
24Yna dyma Iesuʼn dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi. 25Bydd y rhai syʼn ceisio achub eu hunain yn colliʼr bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny syʼn barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn. 26Beth ydyʼr pwynt o gael popeth sydd gan y byd iʼw gynnig, a cholliʼr enaid? Oes unrhyw beth syʼn fwy gwerthfawr naʼr enaid? 27Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, aʼr angylion gyda mi. Bydda iʼn rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wediʼi wneud. 28Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi syʼn sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Mab y Dyn yn dod i deyrnasu.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015