No themes applied yet
Timotheus yn ymuno â Paul a Silas
1Aeth Paul ymlaen i Derbe ac yna i Lystra, lle roedd disgybl oʼr enw Timotheus yn byw. Roedd ei fam yn Iddewes ac yn credu, ond ei dad yn Roegwr. 2Dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium iʼw dweud am Timotheus, 3felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag iʼr Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhwʼn gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr. 4Wrth deithio o un dref iʼr llall roedden nhwʼn dweud beth oedd yr apostolion aʼr arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill. 5Felly roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhwʼn tyfu bob dydd.
Paul yn cael gweledigaeth o ddyn o Macedonia
6Teithiodd Paul aʼi ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wediʼu stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges. 7Dyma nhwʼn cyrraedd ffin Mysia gydaʼr bwriad o fynd ymlaen i Bithynia,16:6-7 Roedd Phrygia, Galatia, Asia, Mysia, a Bithynia yn ardaloedd gwahanol yn y wlad dŷn niʼn ei hadnabod fel Twrci. ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd. 8Felly dyma nhwʼn mynd drwy Mysia i lawr i ddinas Troas. 9Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll oʼi flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia iʼn helpu ni!” 10Felly, o ganlyniad iʼr weledigaeth yma, dyma niʼn16:10 Roedd Luc, awdur llyfr yr Actau, gyda Paul ar y daith yma. paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod iʼr casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddiʼr newyddion da.
Lydia yn cael tröedigaeth yn Philipi
11Dyma niʼn hwylio o borthladd Troas a chroesiʼn syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn. 12Oʼr fan honno aethon ni ymlaen i Philipi syʼn dref Rufeinig – y ddinas fwyaf yn y rhan honno o Macedonia. Buon ni yno am rai dyddiau.
13Ar y dydd Saboth dyma niʼn mynd allan oʼr ddinas at lan yr afon, lle roedden niʼn deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma niʼn eistedd i lawr a dechrau siarad âʼr gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno. 14Roedd un wraig yno oʼr enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hiʼn un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hiʼn ymateb i neges Paul. 15Cafodd hi a rhai eraill oʼi thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chiʼn derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartref i.” A llwyddodd iʼn perswadio ni i wneud hynny.
Paul a Silas yn y carchar
16Rhyw ddiwrnod arall pan oedden ni ar ein ffordd iʼr lle gweddi, dyma niʼn cyfarfod caethferch oedd ag ysbryd ynddi yn ei galluogi i ragweld y dyfodol. Roedd hiʼn ennill arian mawr iʼw pherchnogion drwy ddweud ffortiwn. 17Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Maeʼr dynion yma yn weision iʼr Duw Goruchaf! Maen nhwʼn dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!”
18Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dymaʼr ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.
19Pan welodd ei meistri fod pob gobaith o wneud elw drwyddi wedi mynd, dyma nhwʼn gafael yn Paul a Silas aʼu llusgo o flaen yr awdurdodau yn sgwâr y farchnad. 20“Maeʼr Iddewon yma yn codi twrw yn y dre,” medden nhw wrth yr ynadon 21“ac maen nhwʼn annog pobl i wneud pethau syʼn groes iʼn harferion ni Rufeiniaid.”
22Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dymaʼr ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau aʼu curo â ffyn. 23Wedyn ar ôl eu curoʼn ddidrugaredd, dyma nhwʼn eu taflu nhw iʼr carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn iʼw gwylio nhwʼn ofalus, 24felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion.
25Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthiʼn gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando. 26Ynaʼn sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar iʼw sylfeini. Dymaʼr drysau i gyd yn agor, aʼr cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb! 27Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun. 28Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!”
29Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr oʼu blaenau yn crynu mewn ofn. 30Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”
31Dyma nhwʼn ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.” 32A dyma nhwʼn rhannuʼr newyddion da am yr Arglwydd Iesu gydaʼr swyddog a phawb arall yn ei dŷ. 33Aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio. 34Yna aeth â nhw iʼw gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.
35Yn gynnar y bore wedyn dymaʼr ynadon yn anfon plismyn iʼr carchar i ddweud wrth y swyddog am ollwng Paul a Silas yn rhydd. 36Dymaʼr swyddog yn dweud wrth Paul, “Maeʼr ynadon wedi dweud eich bod chiʼch dau yn rhydd i fynd.” 37Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wediʼn curo niʼn gyhoeddus aʼn taflu ni iʼr carchar heb achos llys, a ninnauʼn ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhwʼn meddwl nawr eu bod nhwʼn gallu cael gwared â niʼn ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain iʼn hebrwng ni allan!”
38Dymaʼr plismyn yn mynd i ddweud wrth yr ynadon beth oedd wedi digwydd. Pan glywon nhw fod Paul a Silas yn ddinasyddion Rhufeinig roedden nhw wedi dychryn. 39Felly dyma nhwʼn dod iʼr carchar i ymddiheuro. Ar ôl mynd â nhw allan oʼr carchar, dyma nhwʼn pwyso ar y ddau dro ar ôl tro i adael y ddinas. 40Felly dyma Paul a Silas yn mynd i dŷ Lydia i gyfarfod y credinwyr aʼu hannog nhw i ddal ati, ac wedyn dyma nhwʼn gadael Philipi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015