No themes applied yet
Y Cyngor yn Jerwsalem
1Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn iʼr credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadwʼr ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.” 2Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dymaʼr eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gydaʼr apostolion aʼr arweinwyr yno. 3Ar eu ffordd yno dyma nhwʼn galw heibioʼr credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes.
4Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion aʼr arweinwyr eraill yno. A dyma nhwʼn adrodd hanes y cwbl roedd Duw wediʼi wneud drwyddyn nhw. 5Ond dyma rai oʼr Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill syʼn dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadwʼr ddefod o enwaedu.
6Dymaʼr apostolion ac arweinwyr eraill yr eglwys yn cyfarfod i ystyried y cwestiwn. 7Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chiʼn cofio fod Duw wedi fy newis i rannuʼr newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, aʼu cael nhw i gredu. 8Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roiʼr Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni. 9Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu. 10Felly pam dych chiʼn amau beth mae Duw wediʼi wneud, drwy fynnu fod y disgyblion ymaʼn cario beichiau roedden ni aʼn hynafiaid yn methuʼu cario? 11Dŷn niʼn creduʼn hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioniʼr Arglwydd Iesu syʼn ein hachub ni fel hwythau!”
12Doedd gan neb ddim byd arall iʼw ddweud, a dyma nhwʼn gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol aʼr pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wediʼu gwneud drwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill. 13Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iagoʼn dweud: “Gwrandwch, frodyr. 14Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddoʼi hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf. 15Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:
16‘Bydda iʼn dod nôl wedi hyn
i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.
Bydda iʼn adeiladu ei adfeilion, aʼi adfer,
17er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisioʼr Arglwydd,
aʼr holl wledydd eraill syʼn perthyn i mi.’ 15:16-17 Amos 9:11-12
Maeʼr Arglwydd wedi gwneud y pethau yma 18yn hysbys ers oesoedd maith. 15:17-18 cyfeiriad at Eseia 45:21
19“Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethauʼn anodd iʼr bobl o genhedloedd eraill syʼn troi at Dduw. 20Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wediʼi lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wediʼu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo. 21Mae yna rai ym mhob dinas sydd wedi bod yn pregethu beth ddysgodd Moses ers amser maith, ac mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen yn y synagogau bob Saboth.”
Llythyr y Cyngor at Gredinwyr o Genhedloedd eraill
22Dymaʼr apostolion, gydaʼr eglwys gyfan aʼi harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau oʼr arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (syʼn cael ei alwʼn Barsabas) a Silas. 23Ac roedden nhw i fynd âʼr llythyr yma gyda nhw:
Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys.
At ein brodyr aʼn chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia:
Cyfarchion!
24Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu aʼch ypsetio chi gyda beth maen nhwʼn ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw. 25Felly dŷn ni wedi cytunoʼn unfrydol i anfon dynion atoch chi gydaʼn ffrindiau annwyl Barnabas a Paul 26sydd wedi mentroʼu bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist. 27Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wediʼi roi yn y llythyr yma.
28Maeʼr Ysbryd Glân wedi dangos i ni, a ninnau wedi penderfynu na ddylen ni ofyn mwy na hyn gynnoch chi: 29Eich bod i beidio bwyta unrhyw beth sydd wediʼi aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig unrhyw anifail sydd wediʼi dagu. Hefyd, eich bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol. Byddaiʼn beth da i chi osgoi y pethau yma.
Pob hwyl i chi!
30Felly dyma Paul a Barnabas, Jwdas a Silas yn cael eu hanfon ar eu ffordd, ac yn cyrraedd Antiochia yn Syria. Yno dyma nhwʼn casglu pawb at ei gilydd ac yn cyflwynoʼr llythyr iddyn nhw. 31Cafodd y llythyr ei ddarllen, ac roedd y bobl yn hapus iawn ac wediʼu calonogiʼn fawr gan yr hyn roedd yn ei ddweud. 32A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gydaʼr Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau iʼw hannog a chryfhau eu ffydd. 33Ar ôl aros yn Antiochia am beth amser, dymaʼr ddau yn mynd yn ôl i Jerwsalem at y bobl oedd wediʼu hanfon, a hynny gyda bendith Cristnogion Antiochia.15:33 Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn. 34, Ond dyma Silas yn penderfynu aros. 35Ond arhosodd Paul a Barnabas i helpu pawb arall oedd yn dysgu ac yn cyhoeddi neges yr Arglwydd yno.
Ail Daith Genhadol Paul
Paul a Barnabas yn cael ffrae
36Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld âʼr credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon niʼn cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhwʼn dod yn eu blaenau.” 37Roedd Barnabas am fynd, ond roedd eisiau mynd â Ioan Marc gyda nhw hefyd. 38Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith. 39Aeth hiʼn gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu. Dyma Barnabas yn hwylio i Cyprus gyda Marc, 40a Paul yn dewis Silas i fynd gydag e. Ar ôl cael eu cyflwyno i ofal yr Arglwydd gan y credinwyr eraill, 41dyma nhwʼn teithio drwy Syria a Cilicia yn cryfhauʼr eglwysi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015