Skip to main content

Calon newydd a meddwl newydd: Eseciel 11 (7 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Deuwn ger dy fron Arglwydd, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Fe wnaethost ti ni ar dy ddelwedd dy hun a’n caru i fodolaeth. Felly bydd yn ein plith nawr, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Diolchwn i ti Dduw am yr amser hwn heddiw. Amen.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseciel 11

Mae Eseciel yn cael ei gludo gan yr Ysbryd i borth dwyreiniol y deml, lle'r oedd ‘gogoniant yr ARGLWYDD’ wedi stopio cyn gadael y cysegr yn llwyr. Mae’r syniad hwn o ‘ogoniant yr ARGLWYDD’ yn thema sy’n dychwelyd dro ar ôl tro yn ’yr Hen Destament – ‘Sekinah’ yn Hebraeg yw’r syniad o bresenoldeb Duw ymhlith ei bobl ddewisol. Mae’n bwysig i’n dealltwriaeth o sut mae Duw a sancteiddrwydd yn cael eu disgrifio cyn dyfodiad Iesu.

Wrth borth y dwyrain, mae Eseciel yn dod o hyd i 25 o ddynion. Mae dau ohonyn nhw wedi’u henwi, ond nid ydym yn gwybod llawer amdanynt ac eithrio eu bod yn arweinwyr y ddinas ac wedi bod yn rhoi cyngor gwael i’r bobl. Mae trigolion y ddinas wedi byw gyda, ac o dan, drais yn rhy hir, ac ni fydd cylch y trais yn dod i ben os bydd y bobl yn parhau i ymladd eu gwrthwynebwyr heb ffydd ac ymddiriedaeth yn Nuw.

Roedd Eseciel yn weithgar o bosib yng nghyfnod tywyllaf hanes Jwda. Nid iselhau’r bobl ymhellach fyth oedd ei bwrpas ond sicrhau’r alltudion ym Mabilon nad oedd Duw wedi cefnu arnynt. Felly mae Duw yn dweud wrth Eseciel, er ei fod wedi cymryd ei bobl ymhell o’u cartref, daw amser pan y bydd  yn dod â nhw yn ôl. Pan fydd yn eu gwaredu, byddant yn tynnu pob ffieidd-dra o bresenoldeb Duw ac yn addoli Duw â chalon gywir. Bydd yn cymryd amser hir i’r gymuned mewn alltud i ddeall pam mae eu gweithredoedd yn gwylltio Duw. Ymateb Duw yw atgoffa’r bobl o’i berthynas â nhw: ‘a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD’ (adnod 12) – fformiwla sy’n codi dro ar ôl tro drwy’r llyfr.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd cariadus, rho galon newydd imi heddiw a chael gwared ar unrhyw rwystrau imi dy addoli di mewn ysbryd ac mewn gwirionedd. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Fleur Dorrell, Rheolwr Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible