Skip to main content

Iaith y corff: 1 Corinthiaid 12.12–20 (6 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Llonydda fy meddwl, Arglwydd, a gad imi dy glywed.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 12

Mae Paul yn parhau â’i gyfarwyddiadau ar gyfer ymarfer eglwysig. Fel ar achlysuron blaenorol, megis bwyta cig aberthol neu ddathlu Swper yr Arglwydd, mae’n dweud wrth ei ddarllenwyr i fod yn ystyriol o’i gilydd; yma mae’n cymhwyso’r egwyddor honno i’w defnydd o ddoniau’r Ysbryd Glan.

Trosiad estynedig yw’r hyn sy’n dilyn. Mae’r corff fel delwedd o gymdeithas yn ymddangos mewn straeon ac athroniaeth Roeg hynafol yn ogystal ag yng ngwaith gan yr hanesydd Rhufeinig, Livy. Gan gyfeirio o bosibl at y rhagflaenwyr hyn, mae Paul yn defnyddio ‘iaith y corff’ i ddisgrifio’r Eglwys – corff Crist.

Mae organeb sy’n gweithredu’n llawn yn dibynnu ar bob rhan unigol a’u synergedd perffaith. Mae’r Eglwys yn ffynnu pan fydd cyfeillach ac addoliad yn rhedeg yn drefnus ac mae pob aelod yn cyfrannu. Ym Mhennod 13, bydd Paul yn mynd ymlaen i ddatgelu’r un peth a fydd yn dal y corff Corinthaidd gyda’i gilydd, yn fwy na dim arall: cariad. Nid rhamant diwrnodau priodas, ond cariad cyson, anhunanol, aberthol Crist.

Gweddi

Gweddi

Dangos i mi, Arglwydd, sut i gefnogi pobl yn fy eglwys ac i chwarae fy rhan.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible