Skip to main content

‘Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir!’: Eseciel 12 (8 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Deuwn ger dy fron Arglwydd, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Fe wnaethost ti ni ar dy ddelwedd dy hun a’n caru i fodolaeth. Felly bydd yn ein plith nawr, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Diolchwn i ti Dduw am yr amser hwn heddiw. Amen.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseciel 12

Mae penodau 12-19 yn gyfres o broffwydoliaethau am dynged Jerwsalem, sy’n cynnwys fföedigaeth y tywysog o Jerwsalem a thrallod parhaus y rhai yn y ddinas. Yn gyntaf, mae gweithred broffwydol arall. Gorchmynnodd Duw i Eseciel baratoi ‘bag ffoadur’, ac yna cloddio trwy wall ei dŷ a mynd allan gyda’i wyneb wedi’i orchuddio yng ngolwg llawn y bobl. Mae’r rhybudd hwn yn ychwanegu at y ddrama a’r ing o sut y bydd Duw yn trin drygioni ei bobl wrthryfelgar.

Ar ôl dal sylw’r bobl gyda’i anturiaeth, mae Duw yn dweud wrth Eseciel am egluro bod ei weithredoedd yn arwyddion o’r hyn a fydd yn digwydd i’w tywysog yn Jerwsalem a holl ‘dylwyth  gwrthryfelgar’ Israel sydd yn Jerwsalem. Bydd hyd yn oed y tywysog yn gadael fel ffoadur ac yn cael ei gludo i Babilon, lle y bydd yn marw. Fodd bynnag, gan fod y bobl yn dal i wrando ar broffwydi ffug a oedd wedi dweud wrthynt y bydd popeth yn iawn – yr union beth yr oeddent am ei glywed – roeddent yn amharod i gredu neges barn Eseciel. Gallwch chi deimlo’r tensiwn yn y stori hon a’r frwydr rhwng da a drwg ar bob tro. Ar y pwynt hwn, mae Duw yn penderfynu gadael i ychydig o bobl ddianc rhag marwolaeth, er mwyn iddynt ddweud am ei bŵer mewn gwledydd eraill.

Mae Duw yn dweud wrth Eseciel am atgyfnerthu ei rybudd trwy grynu wrth iddo fwyta ac yfed, gan arwyddo difrifoldeb y sefyllfa a’r ofn y dylai’r bobl ei deimlo. Ac eto i gyd maent yn gwrthod ei gredu, gan argyhoeddi bod yn rhaid i weledigaeth Eseciel gyfeirio at rywbeth yn y dyfodol pell – yn haws o lawer na wynebu eu tynged eu hunain. Fodd bynnag, mae Duw yn dweud wrth Eseciel y bydd y weledigaeth yn dod yn wir yn gyflym – bydd yr hyn y mae’r ARGLWYDD wedi’i ddweud yn cael ei wneud (adnod 28).

Er bod negeseuon Eseciel yn ymwneud a digofaint a barn, y tu ôl iddynt mae tosturi a maddeuant diddiwedd Duw.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd cariadus, boed i mi fod yn wyliadwrus yn dy bresenoldeb bob amser, ac yn graff am bwy yr wyf yn ymddiried ynddynt i fy arwain at dy ogoniant.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Fleur Dorrell, Rheolwr Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible