Skip to main content

Byddaf dal i obeithio yn Nuw: Job 13 (Chwefror 14, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Job 13

Yn ôl pob sôn, daeth ffrindiau Job i’w gysuro ond nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth i leddfu ei boen. Mae'n ymddangos eu bod wedi colli golwg ar ei ddioddefaint yn eu hawydd i ennill y ddadl ddiwinyddol wrth law. P'un ai methu helpu neu gwrthod helpu a wnant, mae Job yn eu galw’n 'cwacs' (adnod 4) ac yn troi ei sylw yn ôl at ei apêl gerbron Duw.

‘Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith!’ mae Job yn datgan (adnod 15). Beth yw natur y gobaith hwn? Ymddengys bod Job yn ymddiried yn Nuw i fod yn gyfiawn ac - yn hyderus ei fod ‘yn yr iawn’ - yn credu y bydd yn ddieuog (adnod 18). Ond yn y cyfamser, er bod ei ffrindiau'n gallu anghofio ei ddioddefaint, ni all Job wneud hynny.

Mae’n werth atgoffa ein hunain bod Job yn galaru, yn amddifad ac wedi’i orchuddio ‘â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl’ (Job 2.7). Ochr yn ochr â’i gais am ateb gan Dduw mae’n pledio, ‘Tyn dy law yn ôl, a stopia godi dychryn arna i’ (adnod 21). O gymharu ei hun â ‘deilen wedi’i chwythu’ ac ‘us sych’, ni all gymryd llawer mwy; a fydd Duw wir yn ‘dychryn’ ac yn ‘mynd ar drywydd’ rhywun mor wan (adnod 25)?

Mae'r llun o Dduw mae'r Beibl yn ei ddatgelu yn dangos ei fod yn gofalu am y gwan a'r anghenus. Mae proffwydoliaeth Eseia ym mhennod 42.3 - y mae Iesu’n cysylltu ag ef ei hun (Mathew 12.20) - yn dweud, ‘Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu....’ Dywed Eseia 40.31, ‘Ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr Arglwydd yn cael nerth newydd...’. Ac mae 2 Pedr 3.9 yn ei gwneud hi'n glir nad oes gan Dduw fwriad i'n dinistrio: ‘Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw…’

Nid yw ffydd Job yn Nuw ar gam ac nid yw ein ffydd ni chwaith. Fe allwn ni wir ymddiried ynddo a gobeithio ynddo.

Gweddi

Gweddi

Diolch i Dduw dy fod yn caru, yn achub ac yn adfer pobl sydd wedi torri. Rwy'n rhoi fy ymddiriedaeth a fy ngobaith ynot ti. Llenwaf i â dy dosturi tuag at eraill a gwna fi’n barod i gynnig help a chysur go iawn i'r rhai sydd mewn poen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible