Skip to main content

Bugail a phobl: 1 Thesaloniaid 2.1–12 (15 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Thesaloniaid 2.1–12

Yn yr adnodau hyn, dywed Paul rai pethau arwyddocaol iawn am y berthynas rhwng arweinydd eglwys a’i gynulleidfa. Nid oedd felly mewn gwirionedd, wrth gwrs – roedd hon yn sefyllfa genhadol, ac roedd ef a Silas wedi ffurfio eglwys newydd yno yn cynnwys credinwyr Iddewig ac o’r Cenhedloedd. Ond mae gan ei ffordd o ymdrin â’r eglwys lawer i’w ddweud wrthym heddiw. Fe’i nodweddwyd gan uniondeb personol (adnod 3) a ffocws ar eu cenhadaeth gan Dduw (adnod 4). Nid oedd ganddynt ddiddordeb yng nghymeradwyaeth neb arall nac mewn gweithredu eu hawdurdod (adnod 6). Yn hytrach, fe wnaethant ymddwyn fel rhieni: yn dyner fel mam (adnod 7), yn galonogol ac uchelgeisiol fel tad (adnod 12). Wrth gwrs mae’r rhain yn ystrydebau o rieni, ond rydym yn gwybod beth maent yn eu golygu.

Mae’r ‘epistolau bugeiliol’ at Timotheus a Titus yn cynnwys cyngor wedi’i gyfeirio’n union at arweinwyr eglwysig. Ond dyma Paul yn rhoi enghraifft o sut mae hyn yn gweithio yn ymarferol. Nid oes llymder na goruchafiaeth yma. Nid oes ganddo ef na Silas ddiddordeb mewn defnyddio’r eglwys i gryfhau eu hego bregus neu i wneud arian neu unrhyw beth arall. Yn union fel y mae rhieni eisiau gweld eu plant yn ffynnu ac yn rhagori, mae am weld y Cristnogion Thesalonaidd yn dod yn bopeth y mae Duw eisiau iddynt fod – i ‘fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander’ (adnod 12). Dyna safon uchel i fugeiliaid heddiw – a safon uchel i bob crediniwr.

Gweddi

Gweddi

Duw, rwy’n gweddïo dros y rhai sydd mewn awdurdod yn fy eglwys. Boed iddynt fod yn gariadus ac yn dyner tuag at y rhai sydd dan eu gofal, gan eu harwain at Iesu bob amser.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible