No themes applied yet
Duw aʼi bobl
(1 Cronicl 16:8-22)
1Diolchwch iʼr ARGLWYDD, a galw ar ei enw!
Dwedwch wrth bawb beth mae wediʼi wneud.
2Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth iʼw foli!
Dwedwch am y pethau rhyfeddol maeʼn eu gwneud.
3Broliwch ei enw sanctaidd!
Boed i bawb syʼn ceisioʼr ARGLWYDD ddathlu.
4Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;
ceisiwch ei gwmni bob amser.
5Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –
ei wyrthiau, aʼr cwbl mae wedi ei ddyfarnu.
6Ie, chi blant ei was Abraham;
plant Jacob mae wediʼu dewis.
7Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e,
yr un syʼn barnuʼr ddaear gyfan.
8Mae eʼn cofioʼi ymrwymiad bob amser,
aʼi addewid am fil o genedlaethau –
9yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,
aʼr addewid wnaeth ar lw i Isaac.
10Yna, ei gadarnhau yn rheol i Jacob –
ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
11“Dw iʼn rhoi gwlad Canaan i chi,” meddai,
“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
12Dim ond criw bach ohonyn nhw oedd –
rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
13ac yn crwydro o un wlad iʼr llall,
ac o un deyrnas iʼr llall.
14Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;
roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
15“Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial105:15 fy mhobl sbesial Hebraeg, “fy rhai eneiniog”. i;
peidiwch gwneud niwed iʼm proffwydi.”
16Ond wedyn daeth newyn ar y wlad;
cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw.
17Ond roedd wedi anfon un oʼu blaenau,
sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas.
18Roedd ei draed mewn cyffion;
roedd coler haearn am ei wddf,
19nes iʼw eiriau ddod yn wir
ac i neges yr ARGLWYDD ei brofiʼn iawn.
20Dymaʼr brenin yn ei ryddhau oʼr carchar;
llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd.
21Gwnaeth eʼn gyfrifol am ei balas,
a rhoi iddoʼr awdurdod i reoli popeth oedd ganddo.
22Disgybluʼr arweinwyr eraill fel y mynnai,
a dysgu doethineb iʼr cynghorwyr hŷn.
23Yna dyma Israel yn symud iʼr Aifft;
aeth Jacob i fyw dros dro yn nhir Cham.
24Gwnaeth Duw iʼw bobl gael llawer o blant,
llawer mwy naʼu gelynion nhw.
25Dechreuodd y gelynion gasáu ei bobl,
a cham-drin ei weision.
26Wedyn, dyma Duw yn anfon ei was Moses,
ac Aaron, yr un oedd wediʼi ddewis.
27Dyma nhwʼn dweud am yr arwyddion gwyrthiol
roedd Duw yn mynd iʼw gwneud yn nhir Cham:
28Anfon tywyllwch, ac roedd hiʼn dywyll iawn!
Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd.
29Troi eu dŵr nhw yn waed
nes iʼr pysgod i gyd farw.
30Llenwiʼr wlad hefo llyffantod –
hyd yn oed y palasau brenhinol.
31Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed –
gwybed drwyʼr tir ym mhobman.
32Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw,
a mellt drwyʼr wlad i gyd.
33Taroʼu gwinwydd aʼu coed ffigys,
a bwrw coed i lawr drwyʼr wlad.
34Gorchymyn anfon locustiaid –
llawer iawn gormod ohonyn nhw iʼw cyfri.
35Roedden nhwʼn difethaʼr planhigion i gyd,
ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!
36Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwyʼr wlad –
ffrwyth cyntaf eu cyfathrach.
37Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur!
Doedd neb drwyʼr llwythau i gyd yn baglu.
38Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw,
achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw.
39Wedyn rhoddodd Duw gwmwl iʼw cysgodi,
a tân i roi golau yn y nos.
40Dyma nhwʼn gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod;
rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw oʼr awyr.
41Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni;
roedd yn llifo fel afon drwy dir sych.
42Oedd, roedd Duwʼn cofioʼr addewid cysegredig
roedd wediʼi wneud iʼw was Abraham.
43Daeth âʼi bobl allan yn dathlu!
Roedd y rhai wediʼu dewis ganddoʼn bloeddio canu.
44Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw;
cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill.
45Gwnaeth hyn er mwyn iddyn nhw gadwʼi reolau
a bod yn ufudd iʼw ddysgeidiaeth.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015