Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae hon yn bennod sy'n twymo'r galon. Mae Paul yn siarad am ei gariad dwfn tuag at y Thesaloniaid, ac am ei bryder y gallent fod wedi cael eu hudo oddi wrth eu cariad at Dduw oherwydd ofn erledigaeth (adnod 5). Newyddion da sydd yna: roedd Timotheus, yr un oedd Paul wedi anfon atynt, wedi dychwelyd a dweud wrtho eu bod yn dal i ymroi iddo, ac am eu ‘ffydd a’u cariad’ (adnod 6).
Mae Paul yn cael enw drwg weithiau, er enghraifft oherwydd yr hyn y mae pobl yn tybio yw ei farn am fenywod. Ond roedd yn ddyn emosiynol oedd yn gallu creu ymlyniadau dwfn. Iddo ef, nid casgliad o gynigion diwinyddol yn unig oedd yr efengyl: roedd yn ymwneud â gweld pobl yn ffynnu ac yn dod yn bopeth yr oedd Duw yn bwriadu iddynt fod. Roedd wrth ei fodd yn gweld Duw yn gweithio ym mywydau pobl. Pan oedd yn ymddangos eu bod yn gwyro oddi wrth y gwir, fel y Galatiaid, roedd yn gandryll – nid fel athro mathemateg gyda thymer drwg pan oedd ei ddisgyblion wedi cael ateb yn anghywir, ond fel rhiant sydd ofn oherwydd y dewisiadau gwael y mae eu plant yn eu gwneud.
Gallwn ddysgu llawer gan Paul, nid yn unig trwy’r hyn a ddywedodd, ond trwy bwy ydoedd. Dylai bugeiliaid garu eu pobl, am un peth. Dywedodd y Pab Ffransis y dylai offeiriad ‘roi ei groen ei hun a’i galon ei hun yn y fantol’ a bod yn fugail ‘yn byw gydag arogl y defaid’. A dylem gofio nad yw’r efengyl yn ymwneud â chasgliad o reolau na chasgliad o athrawiaethau yn unig; mae’n ymwneud â’r galon a’r enaid, yn ogystal â’r meddwl.
Duw, helpa fi i wir garu’r bobl rydw i’n addoli gyda nhw neu rydw i’n gweinidogaethu iddynt. Helpa fi i fod eisiau’r gorau iddynt ac i feddwl y gorau ohonynt.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.