Skip to main content

Actau 5 (5 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 5

Mae rhan gyntaf y bennod hon yn cynnwys un o’r straeon mwyaf trwblus yn Actau. Mae credinwyr o’r enw Ananias a Saffeira yn cael eu tynnu at yr Eglwys newydd, ac ynghyd â llawer o rai eraill yn gwerthu tir ac yn rhoi’r elw. Ond maent yn dweud celwydd, gan ddweud eu bod nhw wedi rhoi popeth pan maent wedi cadw rhywfaint iddynt eu hunain. Mae barn yn cwympo arnynt ac maent yn marw.

Ar un lefel, mae’r stori hon yn sôn am bwysigrwydd sancteiddrwydd ym mywyd pobl Dduw. Mae straeon eraill yn yr Hen Destament am bethau tebyg yn digwydd (Lefiticus 10.1-2, 2 Samuel 6.1-8, 2 Cronicl 26.16-20). Yn yr achos hwn, nid aflendid defodol yw’r hyn sy’n bwysig ond celwydd. Roedd Ananias a Saffeira yn rhydd i roi cymaint ag yr oeddent eisiau, ond roeddent eisiau ymddangos fel pe baent wedi rhoi mwy.

Ar lefel arall, mae’r stori’n ymwneud â phwysigrwydd uniondeb. Efallai na awn mor bell ag Ananias a Saffeira, ond mae’r demtasiwn i ymddangos yn well nag yr ydym yn un yr ydym i gyd yn ei wynebu. Ac efallai ei bod wedi ei gwneud yn anoddach iddynt fod yn onest oherwydd – yng nghyffro cyntaf yr Eglwys newydd, pan oedd pawb yn llawn brwdfrydedd – byddai bod ychydig yn ofalus a di-ddweud wrth roi wedi gwneud iddynt fod yn amlwg. Efallai y byddai pobl wedi cwestiynu eu hymrwymiad, neu hyd yn oed wedi amau a oeddent yn Gristnogion go iawn.

Gwnaeth Ananias a Saffeira yn anghywir a dioddef o’i herwydd. Ond efallai yn yr Eglwys heddiw, gallwn helpu ein gilydd i fyw’n well trwy fod yn fwy derbyniol o’n gilydd ac yn fwy gonest am ein methiannau ein hunain, fel ei bod hi’n haws dweud y gwir.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ddweud y gwir am bwy ydw i i eraill, a helpa fi i’w gwneud hi’n haws i eraill ddweud y gwir wrthyf.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible