Skip to main content

2 Pedr 2.1–20: Ffynhonnau heb ddŵr (19 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Pedr 2

Mae hon yn bennod ffyrnig iawn. Mae’r ysgrifennwr yn ffocysu ar y ‘proffwydi ffals’ heb faddeuant. Maent yn dysgu ‘heresïau’ sy’n arwain nhw a’u dilynwyr at anfoesoldeb; maent yn ‘haerllug a mor siŵr ohonyn nhw eu hunain’, maent yn ‘dilyn eu greddfau’, ac yn ‘enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall’. Byddent yn cael eu barnu yn llym, yn enwedig os oeddent ymhlith y ffyddloniaid i ddechrau (adnodau 20–22).

Nid ydym yn gwybod yn union pa athrawiaethau yr oedd yr athrawon ffals hyn yn eu lledaenu, felly dylem fod yn ofalus yma. Mae’n hawdd i gredinwyr heddiw feddwl bod unrhyw syniad nad ydynt yn cytuno ag ef i’w gael ei gondemnio, fel y gwnaeth Pedr, ac yn anffodus, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn Cristnogion yn beirniadu Cristnogion eraill. Anaml y byddai’n addas i ni siarad fel hyn – er, weithiau mae’n briodol.

Serch hynny, mae’n werth sylwi ar beth mae’r athrawon hyn yn cael eu condemnio amdano. Maent yn dysgu anwiredd; yn gwadu Crist; yn anfoesol; yn haerllug ac yn farus. Dyma nodweddion ffugioldeb,  a phan welwn hyn mewn arweinwyr eglwysi, neu unrhyw fath o arweinydd, dylem fod yn wyliadwrus ohonynt. Mae disgrifiad Pedr ohonynt fel ‘ffynhonnau heb ddŵr [...] Cymylau sy’n cael eu chwythu i ffwrdd gan gorwynt’ (adnod 17) yn briodol iawn; maent yn addo llawer, ond nid ydynt yn cyflawni. Os ydyn ni wir eisiau disychedu yn ysbrydol, dim ond un lle sydd i fynd: ‘bydd byth syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi’, meddai Iesu (Ioan 4.14).  

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa imi feddwl yn garedig a chariadus am y rhai rydw i’n anghytuno â nhw. Cadwa fi rhag cael fy nhynnu oddi wrth y gwir, a gad imi yfed o afon dy ddaioni.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible