Skip to main content

2 Pedr 1.3–9: Popeth sydd ei angen arnom (18 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Pedr 1

Mae pennod gyntaf 2 Pedr yn sôn am beth mae bod yn Gristion yn ei olygu i ymddygiad a chymeriad y crediniwr. Mae Duw wedi rhoi ‘pethau mawr a gwerthfawr’ i ni sy’n ein galluogi i ni ‘rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni’ (adnod 4), ac mae yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn byw. Yn dibynnu ar sut fath o berson ydym ni, mae beth yr ydym yn ei wneud yn gorfod fod yn gydnaws â’r rhodd o fywyd newydd sydd wedi ei roi i ni. Nid yw Pedr yn defnyddio'r ymadrodd ‘ail eni’, ond dyma’r meddwl tu ôl i’r hyn y mae’n ei ddweud. Rydym yn bobl newydd, ac mae rhaid i ni ddysgu byw yn unol â hynny.

Yn adnodau 5 a 6 mae Pedr yn disgrifio math o ysgol rinweddol. Ffydd sy’n dod gyntaf, yna daioni; y gris nesaf ar yr ysgol yw gwybodaeth, yna hunanreolaeth, dygnwch, duwioldeb, anwyldeb Cristnogol (neu ‘caredigrwydd brawdol’) a chariad.

Os meddyliwn ni am y rhinweddau hyn, gallwn weld sut maent yn ymwneud a’i gilydd. Mae’n ddiddorol bod ‘daioni’ o flaen ‘gwybodaeth’, er enghraifft gall rywun fod yn wybodus iawn am y ffydd, ond ddim yn berson da a deniadol. Rhaid i bobl wybodus ddefnyddio eu gwybodaeth yn ddoeth, parchu eraill yn hytrach na arglwyddiaethu drostynt – felly ar ôl gwybodaeth daw hunanreolaeth.

Gall eglwysi fod yn llefydd prysur, lle mae llawer i’w wneud a dim digon o bobl i gyflawni’r gwaith. Efallai bod eraill yn canolbwyntio ar ddysgu, gyda ‘addysgu da’ yn allweddol i fywyd y gynulleidfa. Efallai nad ydym bob amser yn meddwl yn ddigon caled am fod yn dda.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa imi fod yn dawel yn dy bresenoldeb, ac i weld fy hun fel y rydw i mewn gwirionedd. Helpa fi i newid i fod y math o berson y dylwn ei fod. Helpa fi i fyw yn ôl y ddawn a roddwyd imi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible