Skip to main content

2 Pedr 3.1–9: Amynedd yr Arglwydd (20 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Pedr 3

Ar ddiwedd ei ail lythyr, mae Pedr yn atgoffa ei ddarllenwyr o rywbeth sylfaenol. Mae’r byd y maent yn meddwl sy’n ddiogel, lle bydd fory yr un fath â ddoe a bydd unrhyw newid yn debygol o fod er gwell, ddim felly o gwbl mewn gwirionedd. Cafodd ei greu, yn ôl Genesis 1, allan o ddŵr, ac mae dŵr yn ansefydlog, yn anhrefnus ac wastad yn symud. Cedwir pethau fel y maent drwy air Duw, ond ni ddylem gymryd hynny’n ganiataol: mae’r byd yn cael ei gynnal gan ras, oherwydd nad ydy Duw ‘eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw’ (adnod 9). Felly yn y byd ansicr hwn, dylem fyw ‘bywydau glân sy’n rhoi Duw yn y canol’ (adnod 11).

Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi gweld llawer roeddem yn tybio i fod yn gadarn ac yn ddiogel wedi’i ‘sgubo i’r neilltu, ac mae bywyd bob un ohonom wedi newid yn syfrdanol. Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd: mae rhyfeloedd, newynau a heintiau wedi bod yn rhan o fywydau’r mwyafrif o bobl trwy gydol rhan fwyaf o hanes. Ond efallai yn y Gorllewin mae ein cyfnod hir o ffyniant cynyddol, gyda’n cyflawniadau rhyfeddol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, wedi gwneud inni feddwl ein bod yn ddiogel rhag y math hwn o sioc. I gredinwyr, mae 2 Pedr 3 yno i’n cywiro: mae bywyd yn ansicr, ac rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ras Duw, drwy’r amser.

Gweddi

Gweddi

Duw, pan ymddengys fod sylfeini’r byd yn dadfeilio, helpa fi i roi fy ymddiriedaeth ynddot ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible