Skip to main content
Read this in English

2017 – Blwyddyn Byw y Beibl

Author: Bible Society, 10 January 2017

Share this:

Ar drothwy blwyddyn newydd daw lansiad Blwyddyn Byw y Beibl, ymgyrch newydd ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru i hybu darllen y Beibl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn dilyn llwyddiant ymgyrch Beibl Byw yn 2016, mae Byw y Beibl yn estyniad o’r gwaith cynyddol a gafodd ei wneud y llynedd gyda’r bwriad o barhau trafodaethau am y Beibl yn Gymraeg. Mae amryw gynllun ar y gweill ond un gweithgaredd fydd yn rhedeg gydol yr ymgyrch fydd colofn wythnosol yn Y Pedair Tudalen gan Christine Daniel, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, ac eraill yn dwyn y teitl ‘Beth mae’r Beibl yn ddweud am…’. Bydd y colofnau yn ymdrin â phynciau cyfoes, heriol a pherthnasol i fywydau pob dydd wrth i ni ystyried sut mae’r Beibl yn ein helpu i fyw o ddydd i ddydd. Y bwriad yw rhannu’r gyfres o 52 erthygl ar Ap Y Ras yn ogystal â gwefan a thudalen Twitter Cymdeithas y Beibl.

Gweld yr erthyglau yma

I gefnogi'r ymgyrch bydd Byw y Beibl yn datblygu set o ddeg mat diod, bob un gyda dyfyniad o’r Beibl a 10 cwestiwn gwahanol i sbarduno trafodaeth. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu ymhlith gweinidogion/arweinwyr ledled y wlad i’w defnyddio lle bynnag mae sgyrsiau dros baned neu ddiod yn digwydd.

Dywed Christine Daniel, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru;

"Mae mor bwysig ein bod ni, yn ogystal â darllen y Beibl, hefyd yn dysgu i fyw yn ôl goblygiadau'r hyn yr ydym yn ei ddarllen. Mae Byw y Beibl yn her i wneud hynny - i ddarllen y Beibl ac yna meddwl 'beth y byddaf yn ei wneud yn wahanol heddiw o ganlyniad i'r hyn rwyf wedi'i ddarllen?' Rydym yn gyffrous i weld pa newidiadau y bydd yn datblygu mewn bywydau a chymunedau pobl o ganlyniad i Byw y Beibl "

Diolch i lwyddiant blwyddyn y Beibl Byw y llynedd, mae beibl.net bellach allan o brint am yr eildro gyda bron i 10,000 o unedau wedi eu gwerthu yn ystod 2016. Mae trydydd argraffiad ar y gweill gyda’r gobaith y bydd syniadau Byw’r Beibl yn gymorth ac yn ychwanegu at waith yr enwadau.


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible