Skip to main content

Agor y Llyfr

Mae plant wrth eu bodd gyda stori – yn enwedig storïau o’r Beibl pan fyddan nhw’n rhyngweithiol, yn ddiddorol, ac yn hwyl.

Dyna graidd Agor y Llyfr. Bydd timau o rhwng pedwar ac wyth o Storïwyr yn adrodd storïau o’r Beibl mewn ysgolion cynradd – gan ddefnyddio drama, propiau a gwisgoedd – i ddod â’r storïau’n fyw. Mae timau Agor y Llyfr yn cynnwys aelodau o’r eglwys neu’r capel lleol, neu o nifer o gapeli/eglwysi ar y cyd, sy’n mynd i’r ysgol gynradd i gyflwyno Stori o’r Beibl. Mae’r cyflwyniadau wedi eu sgriptio ar ffurf gwasanaeth 10 munud. Mae yna raglen sy’n ymestyn dros dair blynedd, ac mae hyn ochr yn ochr â rhaglen sy’n pwysleisio gwerthoedd Cristnogol. 

Mae storïau Agor y Llyfr yn cyflawni’r gofyniad cyfreithiol i fod yn addysgiadol, yn gynhwysol ac yn ysbrydol o fewn sefyllfa aml-ffydd. Rhaglen adrodd stori yw hon, ac nid yw’n cynnwys pregethu nac efengylu, felly gall plant o bob ffydd – a rhai heb ffydd – wylio a rhyngweithio â’r storïau yn eu ffordd eu hunain. 

‘Dwi ddim yn darllen y Beibl gartref nag yn unman arall, ond dwi’n hoffi Agor y Llyfr achos eich bod chi’n gallu gweld y storïau’n dod yn fyw.’

Zac, 7 oed

Mae Agor y Llyfr yn rhoi cyfle i bobl yn eich eglwys/capel ddefnyddio amryw o ddoniau – nid yn unig actio! Mae angen pobl sy’n dda am wneud gwaith llaw neu wisgoedd ac mae angen pobl i weddïo hefyd. 

Ar hyn o bryd mae dros 18,000 o wirfoddolwyr yn gweithredu fel Storïwyr ledled y DU, yn mynd i’r ysgolion, yn adeiladu perthynas â’r staff gan ddod a’r Beibl yn fyw mewn ffordd gyffrous i gannoedd a miloedd o blant bob blwyddyn. 

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen a rôl Storïwyr ewch i’r dudalen Volunteers.

 Canfyddwch mwy

Mae angen i bob tîm newydd dderbyn hyfforddiant, a darperir sesiynau hyfforddiant cyson ledled Cymru a Lloegr, neu medrwn drefnu’n benodol ar eich cyfer. Cewch ddod o hyd i sesiynau hyfforddiant yma.

Medrwch gael gwybodaeth hefyd drwy gysylltu a’r Swyddfa Ganolog. [email protected] 

Yr eglwysi a’r capeli sy’n gyfrifol am recriwtio diogel, ac mae Storïwyr yn gymwys i gael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Ar hyn o bryd mae cannoedd o filoedd o blant yn clywed storïau o’r Beibl yn gyson – ond mae llawer mwy sydd ddim yn eu clywed. Rydyn ni’n cael ceisiadau gan ysgolion na allwn ymateb iddynt oherwydd nad oes tîm lleol ar gael. Allwch chi helpu? Beth am lawrlwytho pecyn gwybodaeth a cael sgwrs gyda arweinydd eich eglwys am ffurfio tîm? Yn sicr, fe gewch lawer o hwyl a bendith wrth fod yn rhan o Agor y Llyfr!

Medrwch gael gwybodaeth gan Sarah Morris Swyddog Rhanbarthol Hyfforddiant a Datblygu De Cymru [email protected]

‘Rwyf wedi gweld llawer o blant bywiog Blwyddyn 6 yn llawn balchder wrth iddyn nhw ddod yn un o warchodwyr palas Pharo neu’n un o’r Israeliaid sy’n dianc drwy ddyfroedd y Môr Coch.’

Andy Browne, Pennaeth Ysgol Gynradd Sant Nicholas Headteacher

 Canfyddwch mwy

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible