Skip to main content

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: 6 : Daioni

Author: Bible Society, 16 March 2017

Be’ mae ‘daioni’ yn ei olygu i chi? Mae Paul yn dweud bod daioni yn un o ffrwythau’r Ysbryd Glân. Mae o wedi dewis gair Groegaidd anarferol iawn i ddisgrifio’r ffrwyth yma: dim ond pedair gwaith yn y Beibl mae’r gair yma, ἀγαθωσύνη (agathoswne) yn cael ei ddefnyddio. Dydy o ddim yn ymddangos o gwbl tu allan i’r Beibl y cyfnod hwnnw (N. Turner, Christian Words, 89). 

Mi ddefnyddiodd Paul y gair i ddisgrifio’r Cristnogion yn Rhufain:

Does dim amheuaeth gen i, frodyr a chwiorydd, eich bod chi'n gwybod beth sy'n dda ac yn iawn, a'ch bod chi'n gallu dysgu eich gilydd. (Rhuf 15.14 beibl.net)

Mae daioni hefyd yn ganlyniad o fyw mewn ffordd sy’n dangos eich bod chi yn y golau:

Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau’. (Eff 5.9 beibl.net); ‘Oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd’ (BCN)

Roedd Paul eisiau pwysleisio nad nodwedd gynhenid rhywun yn unig ydy daioni. Mae’n rhaid i’r daioni sydd yn ffrwyth yr Ysbryd Glân arddangos ei hun trwy weithredoedd a pherthnasau da. Mae ‘na elfen o onestrwydd ac uniondeb yn y gair yma hefyd. Mae’r daioni hwn yn dod o’r Tad nefol.

Sut fyddwch chi’n arddangos daioni yn eich bywyd yr wythnos yma?

  • Nodwch amseroedd pan mae gennych chi ddewis heddiw: dewiswch wneud be’ sy’n ddaionus neu ddim. Gofynnwch i’r Ysbryd Glân eich helpu i ddewis y ffordd orau.
  • Meddyliwch am be’ mae daioni yn ei olygu i chi: rhannwch eich syniadau efo ffrind.

Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible