beibl.net - i bobl ifanc – Welsh Youth Bible
Yn cyflwyno beibl.net i bobl ifanc - y Beibl Cymraeg newydd i bobl ifanc, wedi’i greu mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas y Beibl a Youth for Christ. Dim ots faint o weithiau rydych wedi darllen y Beibl o’r blaen neu ba mor agos rydych yn teimlo at Dduw, hwn yw’r llyfr i chi.
Beibl sydd wedi ei ddylunio gyda pobl ifanc, i bobl ifanc, ar gael yn Gymraeg gan ddefnyddio testun poblogaidd Beibl.net.
Pobl ifanc sydd wedi ein cynorthwyo i roi'r Beibl newydd yma at ei gilydd ac mae’n cynnwys:
- dolenni i fideos (sydd ar gael ar YouTube) sy’n dadbacio themâu o’r Beibl
- cannoedd o elfennau rhyngweithiol drwy’r Beibl i gyd sy’n eich annog i gloddio’n ddyfnach
- gofod gwag er mwyn ysgrifennu nodiadau, dŵdlo a thynnu llun
- cyflwyniad un dudalen i bob llyfr yn y Beibl, sy’n esbonio am beth mae’n sôn a sut mae’n ffitio i mewn i’r stori fawr
- 32 tudalen lliw o bethau allweddol i’w ddysgu am y Beibl
- Help gyda phynciau anodd a gofod i gadw nodiadau personol
Edrych Meddwl Dysgu Lliwio Gweithredu Creu
Dyma Feibl sy’n helpu pobl ifanc i ganfod eu hymatebion eu hunain i neges oesol y Beibl mewn ffordd sy’n berthnasol i’w bywydau.
Dim ots lle mae person ifanc ar eu siwrne ffydd – mae’r Beibl hwn iddyn nhw.
Mae 30 fideo sy'n archwilio pynciau gwahanol yn y Beibl ar gael. Gallwch eu gwylio yma.
£14.99 Was £19.99
Plenty in stock
Good News Bible – The Youth Edition
Good News Bible – Family Edition
Contemporary English Version (CEV) Global Youth Bible