Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Mae rhai pobol yn gwneud hwyl ar fy mhen i gan fy mod i’n Gristion. Sain cymryd e o ddifrif. Rwy’n darllen Ap y Beibl ar fy ffon pob dydd. Mae’n atal fi rhag gwneud pethau, mynd a’m sylw o unrhyw demtasiynau fel edrych ar bethau ar lein, dweud pethau na ddylai ddweud, bod yn annifyr, ymuno mewn a’r herian a bod yn gas neu’n angharedig i rywun neu yfed alcohol. Mae lot o bobol yn dweud “Wnes i ‘smygu, wnes i yfed, edrychais ar y fideos yma ar lein.” Brolio maent yn gwneud. Nid ydynt yn ei weld fel peth gwael. Mae hynny’n anodd i fi. Beth ddylai dweud? Mae Ap y Beibl yn helpu fi i ddod i nabod Duw yn well ac yn dod a’r Beibl yn fyw. Dwi’n hoffi’r pennill amdanom ni fel teml Duw, felly mae’n rhaid i ni ei gadw’n lan i Dduw (1 Corinthiaid 3.16). I ddweud y gwir, pan ddechreuais i ddarllen Ap y Beibl, roedd hi’n anodd ac roeddwn i eisiau mynd ar Snapchat yn lle. Nawr, wrth droi’r WiFi ffwrdd, dwi’n tueddu i ddarllen y Beibl peth cyntaf yn y bore, fel fy mod i ddim yn cael fy nhemtio gan un rhywbeth. Mae ffon yn ddefnyddiol iawn, dwi’n ffeindio hi’n anoddach i ddarllen llyfr. Dwi methu dilyn hi'r un mor hawdd. Maen nhw’n creu nodiadau a chynnwys lluniau a gallaf ddarllen rhain hefyd. Dwi eisiau siarad â phobol am Dduw. Dwi eisiau rhannu fe efo lot o bobol.’

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible